Ymgynghoriad
Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
yn cynnal ymchwiliad i Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch.
Bydd yr ymchwiliad
yn canolbwyntio ar y system addysg ac yn benodol ar y cymorth i iechyd meddwl
myfyrwyr gan ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru. Cyfeiriwch at dudalen yr ymchwiliad i weld y
cylch gorchwyl llawn.
Bydd y Pwyllgor
yn lansio arolwg ym mis Medi i gasglu barn myfyrwyr presennol a diweddar, a
bydd yn cynnal ymweliadau yn dilyn y gwaith hwn i siarad yn uniongyrchol â
myfyrwyr.
Cyflwyno eich
barn
Hoffem i chi
gyflwyno eich barn drwy gwblhau’r
pro fforma - mae'r pro fforma yn gofyn am eich barn yn erbyn cylch gorchwyl
yr ymchwiliad. Mae lle hefyd i chi gyflwyno unrhyw safbwyntiau eraill nad ydynt
yn cyfateb yn drefnus i'n cylch gorchwyl.
Rydym yn awyddus
i glywed gan gynifer o bobl â phosibl. Os hoffech gyflwyno eich sylwadau ond
nad ydych eisiau/nad ydych yn gallu cwblhau'r ffurflen hon, ffoniwch glercod y
Pwyllgor, a all drefnu ffordd wahanol ichi fynegi eich barn
0300 200 6565
neu SeneddPlant@senedd.cymru
Dylech anfon eich
ffurflen wedi'i llenwi at SeneddPlant@senedd.cymru
Y dyddiad cau
ar gyfer cyflwyniadau i’r ymgynghoriad hwn yw dydd Llun 7 Tachwedd 2022
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddChildren@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565