Ymgynghoriad

Deintyddiaeth

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

 

Yn dilyn adroddiad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd ym mis Mai 2019, sef Dechrau Ffres: Ymchwiliad i ddeintyddiaeth yng Nghymru, mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd yn ystyried a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i bontio’r bwlch o ran anghydraddoldebau iechyd y geg ac i ailadeiladu deintyddiaeth yng Nghymru ar ôl y pandemig COVID-19 ac yng nghyd-destun costau byw cynyddol.

 

Mae'r Pwyllgor yn ystyried yn benodol:

>>>> 

>>>    I ba raddau y mae mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yn parhau i fod yn gyfyngedig, a beth yw’r ffordd orau o ddal i fyny â'r ôl-groniad o ran gofal deintyddol sylfaenol, gwasanaethau ysbytai a gwasanaethau orthodontig.

>>>    Gwell gwybodaeth am iechyd y geg, gan gynnwys nifer y bobl sy’n manteisio ar ofal deintyddol sylfaenol y GIG ledled Cymru yn dilyn ailddechrau gwasanaethau, a bod angen ymgyrch a ariennir gan y Llywodraeth i roi sicrwydd i’r cyhoedd bod practisau deintyddol yn amgylcheddau diogel.

>>>    Cymhellion i recriwtio a chadw deintyddion y GIG, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd â lefelau o angen mawr.

>>>    Anghydraddoldebau iechyd y geg, gan gynnwys ailddechrau rhaglen y Cynllun Gwên a’r posibilrwydd o’i hehangu i blant 6-10 mlwydd oed; gwell dealltwriaeth o anghenion iechyd y geg pobl 12-21 oed; capasiti gwasanaethau deintyddol yn y cartref i bobl hŷn a'r rhai sy'n byw mewn cartrefi gofal (rhaglen 'Gwên am Byth'); a gofyn, i ba raddau y mae cleifion (yn enwedig cleifion risg isel) yn dewis gweld ymarferwyr preifat, ac a oes risg o greu gwasanaeth iechyd deintyddol dwy haen. Lles a morâl y gweithlu.

>>>    Y posibilrwydd o ehangu'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol ymhellach.

>>>    Gwariant Llywodraeth Cymru ar ddeintyddiaeth y GIG yng Nghymru, gan gynnwys buddsoddi mewn arferion awyru a diogelu ar gyfer y dyfodol.

>>>    Effaith yr argyfwng costau byw ar ddarparu gwasanaethau deintyddiaeth yng Nghymru a mynediad at y gwasanaethau.

<<< 

 

Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n adlewyrchu teimladau’r amrywiaeth o bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio arnynt.

 

Rydym yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i roi eu safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eu barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw dydd Gwener 16 Medi 2022.

 

Ynghyd â'ch cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

 

>>>> 

>>>    Eich enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.

>>>    A yw eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.

>>>    Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd oed.

>>>    Os ydych o dan 13 mlwydd oed, cytundeb eich rhiant neu warcheidwad y gallwch gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy e-bost).

>>>    Cadarnhad o ran a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).

>>>    Cadarnhad o ran a hoffech i’r pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda rhesymau dros y cais.

>>>    Os ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, er enghraifft rhiant, priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.

<<< 

 

Sut i roi eich barn

I roi eich barn yn electronig, anfonwch neges e-bost at SeneddIechyd@senedd.cymru, neu drwy'r post at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.

 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565