Ymgynghoriad
Cynllun Llywodraeth Cymru i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros
Diben yr ymgynghoriad
Fel rhan o'i ymchwiliad i effaith yr ôl-groniad o
ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth,
mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol yn gofyn i randdeiliaid iechyd a gofal cymdeithasol am
dystiolaeth ysgrifenedig ar y cynllun
ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros
a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 26 Ebrill 2022.
Mae'r Pwyllgor yn
gofyn am sylwadau ar y materion a ganlyn:
>>>>
>>>A
fydd y cynllun yn ddigonol i fynd i'r afael â'r ôl-groniadau mewn gofal arferol
sydd wedi cronni yn ystod y pandemig, a lleihau amseroedd aros hir.
>>>A
yw’r cynllun yn sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng mynd i’r afael â’r ôl-groniad
presennol, a chreu system iechyd a gofal cymdeithasol fwy gwydn a chynaliadwy
ar gyfer y tymor hir?
>>>A
yw’r cynllun yn canolbwyntio’n digonol ar y canlynol:
>*>*>*
***Sicrhau bod
pobl ag anghenion iechyd yn cyflwyno eu hunain;
***Cefnogi pobl
sy'n aros am gyfnod hir am driniaeth, rheoli eu disgwyliadau, a'u paratoi ar
gyfer cael y gofal y maent yn aros amdano, gan gynnwys hunanreoli â chymorth;
***Diwallu
anghenion y rhai sydd â'r anghenion clinigol mwyaf, a'r rhai sydd wedi bod yn aros
am amser hir;
***Gwella
canlyniadau cleifion a'u profiad o wasanaethau'r GIG?
<*<*<*
>>>A
yw’r cynllun yn darparu arweinyddiaeth ddigonol a chyfeiriad cenedlaethol i
ysgogi cydymdrech, cydweithio a rhannu arloesedd ar lefelau lleol, rhanbarthol
a chenedlaethol ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan (gan
gynnwys meysydd iechyd meddwl, gofal sylfaenol a gofal cymunedol)?
>>>A
yw’r cynllun yn rhoi digon o eglurder ynghylch pwy sy’n gyfrifol am ysgogi
trawsnewid, yn enwedig wrth ddatblygu gwasanaethau triniaeth a diagnostig
newydd a/neu ranbarthol a moderneiddio gwasanaethau gofal a gynlluniwyd?
>>>A
yw'r targedau a'r amserlenni yn y cynllun yn ddigon manwl, mesuradwy, realistig
a chyraeddadwy?
>>>A
yw'n ddigon clir pa arbenigeddau a fydd yn cael eu blaenoriaethu/cynnwys yn y
targedau?
>>>A
ydych yn rhagweld unrhyw amrywiad ar draws byrddau iechyd o ran cyflawni’r
targedau fesul arbenigedd?
>>>A oes
digon o gyllid refeniw a chyfalaf ar gael i gyflawni’r cynllun, gan gynnwys,
lle bo angen, fuddsoddi mewn seilwaith ac ystadau a’u hehangu er mwyn sicrhau
bod capasiti’r gwasanaethau yn bodloni’r galw?
>>>A
yw’r cynllun yn ddigon clir ynglŷn
â sut y dylai cyllid
ychwanegol ar gyfer trawsnewid gofal a gynlluniwyd gael ei ddefnyddio yn y modd
mwyaf effeithiol, a sut y caiff defnydd ac effaith y cyllid ei eu holrhain a
sut yr adroddir ar hynny?
>>>A
yw’r cynllun yn mynd i’r afael yn ddigonol â phwysau ar y gweithlu iechyd a
gofal cymdeithasol, gan gynnwys cadw, recriwtio, a chefnogi staff i weithio’n
hyblyg, datblygu eu sgiliau a gwella o drawma’r pandemig?
>>>A oes digon o eglurder ynglŷn â sut y bydd offer a data digidol yn cael eu datblygu a'u defnyddio i ysgogi
darpariaeth gwasanaethau a rheoli amseroedd aros yn fwy effeithlon?
<<<
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyno ymatebion yw dydd Gwener 10 Mehefin 2022.
Ynghyd â'ch
cyflwyniad, dylech roi’r wybodaeth a ganlyn:
>>>>
>>>Eich
enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r
dystiolaeth.
>>>A yw
eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.
>>>Os
ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd
oed.
>>>Os ydych
o dan 13 mlwydd oed, cytundeb eich rhiant neu warcheidwad y gallwch gymryd rhan
(gellir darparu hyn drwy e-bost).
>>>Cadarnhad
a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch
tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).
>>>Cadarnhad
o ran a hoffech i’r pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu
unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda rhesymau dros y cais.
>>>Os
ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, er enghraifft rhiant,
priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y
gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.
<<<
Sut i rannu
eich barn
Gallwch rannu
eich barn yn electronig drwy anfon neges e-bost at SeneddIechyd@senedd.cymru, neu ei
anfon drwy'r post at:
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol,
Senedd Cymru,
Caerdydd,
CF99 1SN
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddHealth@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565