Ymgynghoriad
Ymchwiliad i asedau cymunedol
Diben yr ymgynghoriad
Cylch gorchwyl
Mae Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y
Senedd yn cynnal ymchwiliad i asedau cymunedol, gan ganolbwyntio’n benodol ar rwystrau
a chyfleoedd i gymunedau gaffael asedau adeiledig at ddefnydd cymunedol. Bydd y
Pwyllgor yn archwilio sut mae’r fframwaith statudol a pholisi yn annog ac yn
cefnogi datblygiad asedau cymunedol er budd cymunedau. Mae’r materion i’w
hystyried yn cynnwys y canlynol:
>>>>
>>>A
yw’r fframwaith statudol a pholisi presennol yn grymuso cymunedau yng Nghymru i
ddatblygu asedau cymunedol;
>>>I ba
raddau y mae cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn hyrwyddo ac yn cefnogi
datblygiad effeithiol asedau cymunedol;
>>>Archwilio’r
rhwystrau a’r heriau y mae cymunedau yn eu hwynebu wrth gymryd perchnogaeth o
asedau sy’n eiddo cyhoeddus neu breifat, gan gynnwys cyllid a gwasanaethau
cymorth;
>>>Darganfod
pa wersi y gellir eu dysgu o du hwnt i ffiniau Cymru.
<<<
Gwahoddiad i
gyfrannu i'r ymchwiliad
Hoffai’r Pwyllgor
eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo yn ei waith o
ystyried yr ymchwiliad. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddefnyddio’r cylch
gorchwyl uchod i lunio eich ymateb.
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyno yw dydd Gwener 24 Mehefin 2022.
Cyflwyno
tystiolaeth
Os ydych am
ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor, e-bostiwch gopi electronig o'ch tystiolaeth i
SeneddTai@senedd.cymru neu anfonwch
drwy'r post at:
Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai,
Senedd Cymru,
Caerdydd,
CF99 1SN.
Sut y byddwn
yn defnyddio eich gwybodaeth
Byddwn fel arfer
yn cyhoeddi gohebiaeth neu dystiolaeth ysgrifenedig ar ein gwefan. Os ydych
wedi ymateb yn bersonol, bydd eich enw'n cael ei gyhoeddi ynghyd â'ch
cyfraniad, oni bai eich bod wedi gofyn i'ch cyfraniad fod yn ddienw. Os ydych
wedi ymateb mewn rhinwedd broffesiynol, bydd y fersiwn gyhoeddedig yn cynnwys
eich enw, teitl/rôl eich swydd os yw'n berthnasol, ac enw eich sefydliad.
Cyn derbyn
cyfraniadau gan unigolion o dan 13 oed, mae arnom angen awdurdodiad gan riant
neu warcheidwad y person ifanc. Gellir darparu hyn ar ffurf neges e-bost gan
riant neu warcheidwad y person ifanc. Ni fyddwn yn cyhoeddi enwau unigolion o
dan 18 oed ochr yn ochr â'u cyfraniadau.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddHousing@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565