Ymgynghoriad
Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg - y fframwaith deddfwriaethol sy'n cefnogi Darpariaeth Addysg Gymraeg
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y
Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
yn cynnal ymchwiliad i addysg cyfrwng Cymraeg, gan ganolbwyntio yn benodol ar
Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Ymchwiliad ar y cyd yw hwn, a bydd yn
edrych ar sut y mae’r fframwaith statudol, a sefydlwyd i hyrwyddo’r gwaith o
gynllunio a datblygu addysg Gymraeg, yn gweithio.
Hoffem glywed
gennych ar y cwestiynau a ganlyn:
>>>>
>>> Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddodd Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bedwaredd Senedd argymhellion yn ei adroddiad ar
‘Ymchwiliad
i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg’. A yw’r fframwaith
deddfwriaethol ar gyfer Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi gwella
ers hynny?
>>> I ba raddau y mae’r Cynlluniau Strategol
Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y canlyniadau a’r targedau a nodir yn
Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg – Cymraeg 2050?
>>> Sut mae awdurdodau lleol yn ymateb i
newidiadau i ganllawiau ar gategorïau ysgolion yn ôl darpariaeth cyfrwng
Cymraeg, ac a ydynt yn bodloni uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu
darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg ac ysgolion dwy
ffrwd?
>>> Pa heriau a fydd yn codi o ran cynllunio a
datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, cyn Bil Addysg Gymraeg arfaethedig?
<<<
I gyflwyno ymateb
i’r ymgynghoriad, gweler y ffurflen
a ganlyn.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgorau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Email: pwyllograu@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565