Ymgynghoriad

Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cylch gorchwyl

 

Mae Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd yn cynnal ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ledled Cymru, gan ganolbwyntio'n benodol ar yr heriau a allai godi wrth i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd ddod i rym. Bydd y Pwyllgor yn archwilio sut mae'r fframwaith statudol, a sefydlwyd i hyrwyddo gwaith cynllunio a datblygu safleoedd ar gyfer y cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn gweithio. Bydd yn ystyried materion a fydd yn cynnwys y canlynol:

 

>>>> 

>>>    A yw fframwaith presennol Llywodraeth Cymru yn sicrhau digon o safleoedd preswyl a thramwy sy'n ddiwylliannol-briodol i Sipsiwn a Theithwyr ledled Cymru.

>>>    I ba raddau y mae awdurdodau cynllunio lleol a Sipsiwn a Theithwyr yn llwyddo i gydweithio, fel yr argymhellir yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru, gyda'r nod o ganfod safleoedd cynaliadwy ar gyfer cymunedau Sipsiwn a Theithwyr.

>>>    I ba raddau y mae Asesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr awdurdodau lleol yn cael eu gweithredu, eu monitro a'u hadolygu i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion llety y gymuned teithwyr.

>>>    Archwilio'r heriau posibl i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru o ran darparu safleoedd llety addas a digonol ar gyfer cymunedau teithwyr.

>>>    Archwilio beth fydd goblygiadau’r darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd Llywodraeth y DU.

<<< 

 

Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad

 

Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n adlewyrchu’r amrywiaeth o bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio arnynt.

 

Rydym yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i rannu eich safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.

 

Mae'r Pwyllgor yn edrych yn benodol am safbwyntiau ynghylch:

 

>>>> 

>>>    A yw awdurdodau lleol Cymru a chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn llwyddo i gydweithio’n llwyddiannus i:

>*>*>*

***     nodi safleoedd preswyl a thramwy cynaliadwy, a

***     thrafod anghenion llety y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr?

<*<*<*

>>>    Bwriad Asesiadau Llety y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr yw asesu anghenion llety y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Yn eich barn chi, a yw awdurdodau lleol Cymru yn eu cyfanrwydd yn gweithredu, monitro ac adolygu Asesiadau Llety y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn effeithiol?

>>>    A yw’r fframwaith statudol a pholisi presennol yn sicrhau bod digon o safleoedd preswyl a thramwy ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy’n briodol yn ddiwylliannol ledled Cymru ac o fewn awdurdodau lleol unigol?

>>>    Beth yw’r prif heriau i awdurdodau lleol Cymru a Llywodraeth Cymru wrth ddarparu safleoedd llety addas a digonol ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr?

>>>    A ydych yn rhagweld pan/os daw Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd Llywodraeth y DU i rym y bydd:

>*>*>*

***     heriau penodol i'w goresgyn, a/neu

***     mewn rhai lleoliadau yng Nghymru, yn ymwneud â safleoedd cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr?

<*<*<*

>>>    A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol am ddarparu safleoedd llety yng Nghymru ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr?

<<< 

 

 Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw dydd Gwener 20 Mai 2022.

 

Cyflwyno tystiolaeth

 

Os ydych am ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor, e-bostiwch gopi electronig o'ch tystiolaeth i SeneddTai@senedd.cymru neu anfonwch drwy'r post at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.

 

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg. Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno’n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaeth statudol.

 

Gweler y canllawiau i’r rhai sy’n darparu tystiolaeth ar gyfer pwyllgorau a’r Hysbysiad Preifatrwydd sy’n ymwneud â chyfrannu at waith bwyllgorau'r Senedd.

 

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

 

Byddwn fel arfer yn cyhoeddi gohebiaeth neu dystiolaeth ysgrifenedig ar ein gwefan. Os ydych wedi ymateb yn bersonol, bydd eich enw'n cael ei gyhoeddi ynghyd â'ch cyfraniad, oni bai eich bod wedi gofyn i'ch cyfraniad fod yn ddienw. Os ydych wedi ymateb mewn rhinwedd broffesiynol, bydd y fersiwn gyhoeddedig yn cynnwys eich enw, teitl/rôl eich swydd os yw'n berthnasol, ac enw eich sefydliad.

 

Cyn derbyn cyfraniadau gan unigolion o dan 13 oed, mae arnom angen awdurdodiad gan riant neu warcheidwad y person ifanc. Gellir darparu hyn ar ffurf neges e-bost gan riant neu warcheidwad y person ifanc. Ni fyddwn yn cyhoeddi enwau unigolion o dan 18 oed ochr yn ochr â'u cyfraniadau.

 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddTai@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565