Ymgynghoriad

Costau byw

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Casglodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig farn ar effaith economaidd a gwledig pwysau costau byw. Ceisiodd yr ymchwiliad hwn adeiladu ar y gwaith sy’n cael ei wneud neu ei gynllunio gan bwyllgorau eraill y Senedd ar gostau byw, gan gynnwys tlodi tanwydd, datgarboneiddio tai, dyled ac anghydraddoldebau iechyd meddwl.

 

Fe wnaet prisiau cynyddol ynni, y cynnydd mewn trethi a gostyngiad yn y cyflog gwirioneddol achosi i Sefydliad Resolution nodi 2022 fel ‘blwyddyn y wasgfa’. Gwelwyd y gostyngiad mwyaf mewn incwm gwario aelwydydd ers i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ddechrau cadw cofnodion.

 

Cynyddodd y cap ar brisiau ynni i aelwydydd o 54 y cant ar 1 Ebrill 2022, ac roedd disgwyl gweld cynnydd pellach yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno. Ardaloedd gwledig sydd â’r prisiau ynni domestig uchaf yng Nghymru, a eglurir yn rhannol gan y costau uwch sy’n wynebu aelwydydd nad ydynt ar y grid.

 

Dangosodd amcangyfrifon gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol mai’r aelwydydd tlotaf yng Nghymru oedd yn debygol o gael eu taro waethaf gan bwysau costau byw, gan neu bod yn gwario llawer mwy o’u hincwm ar ynni a bwyd.

 

Croesawodd y Pwyllgor farn am unrhyw un, os nad pob un, o'r materion yr ymdriniwyd â nhw yn y cylch gorchwyl, ac am y cwestiynau isod yn benodol:

>>>> 

>>>    Beth yw effeithiau economaidd tebygol y wasgfa costau byw?

>>>    Sut mae pwysau costau byw yn effeithio ar y gweithlu, a sut yr effeithir ar wahanol grwpiau o fewn y gweithlu?

>>>    Sut mae heriau costau byw yn effeithio ar fusnesau a’r sectorau economaidd, a sut mae busnesau’n ymateb i’r rhain?

>>>    Sut mae’r wasgfa costau byw yn effeithio ar gymunedau gwledig ac i ba raddau y mae’r pwysau y maent yn eu hwynebu yn wahanol i ardaloedd trefol?

>>>    Pa mor effeithiol yw’r mesurau cymorth y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi’u rhoi ar waith, a pha gymorth pellach a allai fod ei angen yn ystod y misoedd nesaf?

<<< 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau i'r ymchwiliad hwn oedd dydd Llun 16 Mai 2022.

 

Er eglurder, nid oedd ffurflen benodol ar gyfer cyflwyniadau.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565