Ymgynghoriad

Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: menywod mudol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn ystyried ymchwiliad i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

 

Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar ba rwystrau y mae menywod mudol yn eu hwynebu wrth geisio cael mynediad at wasanaethau a beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau y gall menywod mudol gael mynediad at wasanaethau sydd ag adnoddau llawn a hyfforddiant i ymdrin â normau ac arferion diwylliannol.

 

Ar gyfer y gwaith hwn, bydd y Pwyllgor yn mabwysiadu diffiniad eang o 'fenywod mudol' wrth iddo geisio gwella’i ddealltwriaeth o'r materion, a sut y maent yn gysylltiedig â'r cylch gorchwyl isod. Mae'r diffiniad hwn yn cynnwys (ond nid yw o reidrwydd yn gyfyngedig i) y rhai â statws mewnfudo parhaol neu dros dro, ffoaduriaid, ceiswyr lloches a mudwyr heb eu dogfennu.

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw ystyried:

>>>> 

>>> Profiadau menywod mudol o drais ac i ba raddau y mae normau ac arferion diwylliannol yn cyfrannu at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (e.e. anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod, cam-drin ar sail anrhydedd).

>>> Cwmpas gwasanaethau ac ymyriadau arbenigol sydd â digon o adnoddau a hyfforddiant i gefnogi goroeswyr o gymunedau mudol, gan gynnwys diwallu anghenion diwylliannol ac ieithyddol.

>>> Ystyried y rhwystrau sy’n atal menywod a merched mudol yng Nghymru rhag cael mynediad at wasanaethau, a rhwystrau ychwanegol a wynebir gan fenywod sydd â statws mewnfudo ansicr, neu y mae eu statws mewnfudo yn dibynnu ar briod neu gyflogwr, neu’r rhai nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus.

>>> A allai Llywodraeth Cymru gymryd camau i liniaru’r effaith anghymesur y mae polisi mewnfudo’r DU yn ei chael ar oroeswyr yng Nghymru, a gwireddu ei dyhead mai ‘Cenedl Noddfa’ yw Cymru.

>>> Effeithiolrwydd ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth, ac a yw'r rhain yn llwyddo i dargedu cymunedau mudol a chodi ymwybyddiaeth yn eu plith.

>>> Dull Llywodraeth Cymru o atal cychwynnol, ac a wneir digon o ymdrech i atal trais cyn iddo ddigwydd, drwy weithio gyda grwpiau cymunedol a grwpiau ffydd allweddol ar lawr gwlad, yn ogystal ag ysgolion i herio normau ac arferion diwylliannol.

<<<< 

 

Mae’r Pwyllgor wrthi’n gwahodd safbwyntiau ar y Cylch Gorchwyl a bydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth llafar yn nhymor yr haf. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw 10.00 ar 12 Mai 2022.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565