Ymgynghoriad

Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Casglodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig safbwyntiau ar y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd.

 

Diben yr ymgynghoriad

Ar 28 Chwefror 2022, llofnododd y DU a Seland Newydd Gytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd yn dilyn Cytundeb mewn Egwyddor y daethpwyd iddo ym mis Hydref 2021.

 

Cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig waith craffu ar y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd. Gofynnodd y Pwyllgor am farn rhanddeiliaid am y cytundeb a'i effaith debygol ar Gymru. Roedd y Pwyllgor yn awyddus i glywed am effeithiau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol y cytundeb.

 

 

Croesawodd y Pwyllgor safbwyntiau ar unrhyw un, os nad pob un, o'r materion yr ymdrinnir â nhw yn y cylch gorchwyl, ac am y cwestiynau isod yn benodol:

>>>> 

>>> Sut bydd y cytundeb hwn yn effeithio arnoch chi, eich busnes neu eich sefydliad?

>>> Beth fydd effaith debygol y cytundeb ar yr economi a sectorau penodol yng Nghymru?

>>> Beth fydd effeithiau tebygol y cytundeb yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol?

>>> Beth fydd effeithiau tebygol darpariaethau’r cytundeb ar fasnachu cynhyrchion amaethyddol yn y sector amaethyddol a bwyd yng Nghymru?

>>> Pa gymorth y bydd ei angen ar eich busnes neu sefydliad gan lywodraethau Cymru a’r DU i ymateb i’r cytundeb ac i baratoi ar gyfer ei weithredu?

<<<< 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau i'r ymchwiliad hwn oedd 25 Ebrill 2022.

 

Er eglurder, nid oedd ffurflen benodol ar gyfer cyflwyniadau.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565