Ymgynghoriad

Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymchwiliad i drefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE.

 

Cylch gorchwyl:

I ystyried:

  • Cynnydd o ran sefydlu a darparu cronfeydd cyfnewid ar gyfer cronfeydd strwythurol yr UE, gan gynnwys:
    • Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU; 
    • y Gronfa Adnewyddu Cymunedol; a’r
    • Gronfa Codi'r Gwastad.
  • Y modd y mae’r cyllid arfaethedig ar gyfer Cymru a’r cyllid a gafwyd yn sgil cyfranogiad parhaus y DU yn rhaglenni’r UE yn cymharu â’r cyllid a gafwyd tra’r oedd y DU yn aelod o’r UE.
  • Y mecanweithiau a’r strwythurau sy’n cael eu sefydlu i weinyddu’r cronfeydd hynny yng Nghymru, rolau’r rheini sy’n gysylltiedig – yn enwedig Llywodraethau Cymru a’r DU – a’r effaith ddilynol ar drefniadau atebolrwydd.
  • Swm y cyllid etifeddol y mae disgwyl i Gymru ei gael ar ôl i’r DU adael yr UE ac sy’n gysylltiedig â rhaglenni cronfeydd strwythurol yr UE.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565