Ymgynghoriad

Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol - Drafft ar gyfer ymgynghori

Diben yr ymgynghoriad

Yn unol â Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012, mae’n ofynnol i Gomisiwn y Senedd fabwysiadu a chyhoeddi Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn nodi’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd i gydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan adran 2 o’r Ddeddf, ac i adolygu ei Gynllun Ieithoedd Swyddogol ar ôl pob etholiad. 

 

Mae’n ofynnol i Gomisiwn y Senedd ymgynghori ar gynnwys y cynllun yn dilyn yr adolygiad.

 

Yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2022, cytunodd Comisiwn y Senedd ar gynnwys y cynllun drafft ar gyfer ymgynghori.

 

Hoffem glywed barn cyfranddeiliaid ar y cynllun

 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Comisiwn yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi Comisiwn y Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Comisiwn.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Cynllun Ieithoedd Swyddogol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: IeithoeddSwyddogol@senedd.cymru