Ymgynghoriad

Anghydraddoldebau iechyd meddwl

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl.

 

Yn ôl y Ganolfan Iechyd Meddwl, mae anghydraddoldeb iechyd meddwl yn rhwystr triphlyg sy'n effeithio ar nifer fawr o bobl o wahanol rannau o'r boblogaeth:

 

>>>> 

>>>Mae rhai grwpiau o bobl yn wynebu risg anghymesur o iechyd meddwl gwael. Yn aml, mae hyn yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau ehangach mewn cymdeithas.

>>>Gall grwpiau sydd â lefelau arbennig o uchel o iechyd meddwl gwael wynebu’r anawsterau mwyaf o ran mynediad at wasanaethau.

>>>Lle mae pobl yn cael cefnogaeth, mae eu profiadau a'u canlyniadau yn aml yn waeth.

<<< 

 

Roedd yr anghydraddoldebau hyn yn bodoli cyn pandemig COVID-19, ond mae'r pandemig wedi eu gwaethygu.

 

Mae'r Pwyllgor yn edrych yn benodol am safbwyntiau ynghylch:

 

>>>> 

>>>Pa grwpiau o bobl y mae iechyd meddwl gwael yn effeithio'n anghymesur arnynt yng Nghymru? Pa ffactorau sy'n cyfrannu at iechyd meddwl gwaeth i’r grwpiau hyn?

>>>I’r grwpiau a nodwyd, beth yw'r rhwystrau i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl? Pa mor effeithiol y gall gwasanaethau presennol fodloni eu hanghenion, a sut y gellid gwella eu profiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl?

>>>I ba raddau mae polisi Llywodraeth Cymru yn cydnabod anghenion iechyd meddwl y grwpiau hyn ac yn ceisio mynd i’r afael â hwy? Ble mae'r bylchau polisi?

>>>Pa gamau pellach sydd angen eu cymryd, gan bwy/ym mhle, i wella iechyd meddwl a chanlyniadau’r grwpiau o bobl a nodwyd ac er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru?

<<< 

 

Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n adlewyrchu’r amrywiaeth o bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio arnynt.

 

Rydym yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i rannu eich safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw dydd Iau 24 Chwefror 2022.

 

Ynghyd â'ch cyflwyniad, dylech roi’r wybodaeth a ganlyn:

 

>>>> 

>>>Eich enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.

>>>A yw eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.

>>>Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd oed.

>>>Os ydych o dan 13 mlwydd oed, cytundeb eich rhiant neu warcheidwad y gallwch gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy e-bost).

>>>Cadarnhad a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).

>>>Cadarnhad o ran a hoffech i’r pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda rhesymau dros y cais.

>>>Os ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, er enghraifft rhiant, priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.

<<< 

 

Sut i rannu eich barn

I rannu eich barn yn electronig, anfonwch neges e-bost at SeneddIechyd@senedd.cymru, neu drwy'r post at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Cymorth a chefnogaeth

 

Os oes angen cymorth a chefnogaeth arnoch, mae llinell gymorth iechyd meddwl C.A.L.L ar gyfer Cymru yn cynnig cefnogaeth iechyd meddwl ac emosiynol, a chyfeirio at wasanaethau lleol:

 

Ffoniwch Rhadffôn 0800 132 737 unrhyw bryd 24 awyr y dydd, neu anfonwch neges destun HELP i 81066.

Gwefan: https://www.callhelpline.org.uk/DefaultW.asp?

 

Os ydych yn ei chael yn anodd ymdopi, neu angen siarad â rhywun neu’n ystyried hunanladdiad, gallwch gysylltu â’r Samariaid.

 

Ffoniwch Rhadffon 116 123 unrhyw bryd 24 awr y dydd o unrhyw ffôn.

Llinell Gymorth Gymraeg: 0808 164 0123 (7pm-11pm, 7 diwrnod yr wythnos)

E-bost: jo@samaritans.org

Gwefan: Samaritans Cymru

 

Gallwch gael gwybodaeth hefyd am adnoddau iechyd meddwl eraill a ffynonellau cefnogaeth yn  ffeithlen cymorth iechyd meddwl Ymchwil y Senedd.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565