Ymgynghoriad

Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredino Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu).

 

Cylch gorchwyl:

 

I ystyried:

 

  • egwyddorion cyffredinol y Bil a’r angen am ddeddfwriaeth;
  • priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol);
  • unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi'r darpariaethau hyn ar waith ac a yw'r Bil yn eu hystyried;
  • a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil;
  • priodoldeb adran 3 (Datganiad polisi: rheoliadau o dan adran 1 sy'n cael effaith ôl-weithredol) a'r datganiad polisi drafft (PDF, 329KB) a gyhoeddir ochr yn ochr â'r Bil; a
  • goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).

 

Ochr yn ochr â'r cylch gorchwyl, efallai yr hoffai ymatebwyr ystyried:

 

  • a yw dull y Bil o addasu deddfwriaeth trethi wedi'i fabwysiadu mewn gwledydd eraill a'i effeithiolrwydd; a
  • chryfderau a gwendidau dulliau amgen o addasu deddfwriaeth trethi.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565