Ymgynghoriad

Rheolau ar Ddefnyddio Adnoddau'r Senedd

Ymateb i'r ymgynghoriad

Consultation results

Diben yr ymgynghoriad

Mae Manon Antoniazzi, yn ei rôl fel Prif Swyddog Cyfrifyddu i Gomisiwn y Senedd, wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar y Rheolau a'r Canllawiau ar Ddefnyddio Adnoddau’r Senedd. Y dyddiad cau yw 17 Ionawr 2022.

 

Ymatebwch i AOconsultation@senedd.cymru

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Ymgyngyhoriad Swyddog Cyfrifyddu
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: AOConsultation@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565