Ymgynghoriad

Tlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

 

Er mwyn helpu i lywio ei ymchwiliad i dlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd, mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi gofyn am farn pobl ar y cylch gorchwyl isod:

  • Beth yw'r prif wersi a ddysgwyd o Raglen Cartrefi Clyd bresennol Llywodraeth Cymru?
  • Sut y gall y gwersi hyn helpu i lywio'r fersiwn nesaf o'r Rhaglen Cartrefi Clyd er mwyn sicrhau ei bod yn rhoi gwell cefnogaeth i’r rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd, neu mewn perygl o hynny? Yn benodol:
    • beth ddylai'r meini prawf cymhwysedd fod ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni yn y cartref, 
    • a ddylai’r dull sy'n seiliedig ar ardal, o fynd i'r afael â thlodi tanwydd (Arbed), barhau,
    • pa gymorth penodol y dylid ei ddarparu i ymateb i'r heriau sy'n gysylltiedig â thlodi tanwydd gwledig?
    • sut y gellir annog landlordiaid y sector preifat i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ymhlith tenantiaid?
    • sut y gall unrhyw gynllun(iau) olynol wella ar yr ystyriaethau cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol?
  • Sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod y fersiwn nesaf o'r Rhaglen Cartrefi Clyd yn cyd-fynd yn well â'i hymdrechion i ddatgarboneiddio tai Cymru? 

 

Roedd yr ymgynghoriad ar agor tan 20 Ionawr 2022.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565