Ymgynghoriad
Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 19 Tachwedd 2021 a Dydd Iau, 13 Ionawr 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- WT 01 - RNIB Cymru (Saesneg yn unig) PDF 163 KB
- WT 02 - William Evans (Saesneg yn unig) PDF 295 KB
- WT 03 - Tenovus Cancer Care (Saesneg yn unig) PDF 298 KB
- WT 04 - Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru PDF 620 KB
- WT 05 - Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 96 KB
- WT 06 - Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 85 KB
- WT 07 - Fferylliaeth Gymunedol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 519 KB
- WT 08 - Archwilio Cymru PDF 181 KB
- WT 09 - Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (Saesneg yn unig) PDF 166 KB
- WT 10 - Barnardo's Cymru (Saesneg yn unig) PDF 208 KB
- WT 11 - Coleg Brenhinol y Meddygon (Saesneg yn unig) PDF 302 KB
- WT 12 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (Saesneg yn unig) PDF 425 KB
- WT 13 - Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru (Saesneg yn unig) PDF 533 KB
- WT 14 - Triniaeth Deg I Ferched Cymru (Saesneg yn unig) PDF 354 KB
- WT 15 - Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 215 KB
- WT 16 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (Saesneg yn unig) PDF 409 KB
- WT 17 - Adferiad Recovery PDF 232 KB
- WT 18 - Target Ovarian Cancer (Saesneg yn unig) PDF 222 KB
- WT 19 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (Saesneg yn unig) PDF 382 KB
- WT 20 - Endometriosis UK PDF 446 KB
- WT 21 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (Saesneg yn unig) PDF 559 KB
- WT 22 - Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar Cymru (Saesneg yn unig) PDF 207 KB
- WT 23 - Iechyd Cyhoeddus Cymru PDF 261 KB
- WT 24 - Cymorth Canser Macmillan (Saesneg yn unig) PDF 279 KB
- WT 25 - Mind Cymru (Saesneg yn unig) PDF 683 KB
- WT 26 - Cymdeithas Orthopedig Prydain (Saesneg yn unig) PDF 670 KB
- WT 27 - Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth (Saesneg yn unig) PDF 281 KB
- WT 28 - Coleg Brenhinol Meddygon Teulu (Saesneg yn unig) PDF 525 KB
- WT 29 - Alzheimer's Society Cymru (Saesneg yn unig) PDF 316 KB
- WT 30 - Bowel Cancer UK (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- WT 31 - Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 346 KB
- WT 32 - Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (Saesneg yn unig) PDF 208 KB
- WT 33 - Age Cymru (Saesneg yn unig) PDF 249 KB
- WT 34 - Crohn's & Colitis UK PDF 497 KB
- WT 35 - Cymdeithas Fferylliaeth Genedlaethol (Saesneg yn unig) PDF 810 KB
- WT 36 - Cymdeithas Strôc (Saesneg yn unig) PDF 407 KB
- WT 37 - Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd (Saesneg yn unig) PDF 441 KB
- WT 38 - Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru PDF 100 KB
- WT 39 - Pancreatic Cancer UK (Saesneg yn unig) PDF 222 KB
- WT 40 - All Party Parliamentary Group on Endometriosis (Saesneg yn unig) PDF 247 KB
- WT 41 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda PDF 889 KB
- WT 42 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr PDF 539 KB
- WT 43 - Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru PDF 310 KB
- WT 44 - Cymru Versus Arthritis PDF 342 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r rhestrau
aros ar gyfer apwyntiadau diagnostig a therapi, a thriniaeth lawfeddygol yng
Nghymru, wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y pandemig COVID-19. Mae nifer y bobl
ar restrau aros y GIG yn cyfateb i oddeutu 1 o bob 5 o boblogaeth Cymru, ac mae
tua 37 y cant o’r bobl sy’n aros i ddechrau triniaeth wedi bod yn aros dros 9
mis.
Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
yn cynnal ymchwiliad byr i effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl
yng Nghymru sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth.
Yn benodol, bydd
y Pwyllgor yn ystyried:
>>>>
>>>Y
gwasanaethau sydd ar waith ar gyfer pobl sy’n aros am apwyntiadau diagnosteg a
thriniaeth, yn enwedig cymorth i reoli poen.
>>>Mynediad
at therapïau seicolegol a chefnogaeth emosiynol i’r rheini a allai fod yn profi
pryder neu drallod o ganlyniad i amseroedd aros hir.
>>>Y
cyfraniad y gall y trydydd sector ei wneud wrth ddarparu cymorth cymheiriaid a
gwybodaeth i gleifion sydd ar restr aros y GIG.
>>>Pa
mor effeithiol yw’r negeseuon ar gyfer y cyhoedd ac ymgysylltu â phobl ynghylch
y gofynion ar y gwasanaeth a phwysigrwydd ceisio gofal yn brydlon.
>>>I ba
raddau y mae anghydraddoldebau’n bodoli o ran yr ôl-groniad dewisol, o ran
ardaloedd difreintiedig yn wynebu rhestrau aros anghymesur o fawr y pen o’r
boblogaeth, o gymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig.
>>>Cynlluniau
i adfer gofal wedi’i gynllunio y GIG yng Nghymru yn llawn.
<<<
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyniadau yw dydd Iau 13 Ionawr 2022.
Ynghyd â'ch
cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:
>>>>
>>>Eich
enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r
dystiolaeth.
>>>A yw
eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.
>>>Os
ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd
oed.
>>>Os
ydych o dan 13 blwydd oed, cytundeb eich rhiant neu warcheidwad y gallwch
gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy e-bost).
>>>Cadarnhad
a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch
tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).
>>>Cadarnhad
o ran a hoffech i’r pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu
unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda rhesymau dros y cais.
>>>Os
ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, er enghraifft rhiant,
priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y
gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.
<<<
Sut i rannu
eich barn
I rannu eich barn
yn electronig, anfonwch neges e-bost at SeneddIechyd@senedd.cymru,
neu drwy'r post at:
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol,
Senedd Cymru,
Caerdydd,
CF99 1SN
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565