Ymgynghoriad

Craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Galwodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am gyfraniadau ar gyfer sut y dylai’r Pwyllgor ymdrin â’r rhan gweinyddiaeth gyhoeddus o’i gylch gorchwyl.

 

Dyma’r tro cyntaf i’r Senedd gael pwyllgor gweinyddiaeth gyhoeddus pwrpasol. Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am graffu ar faterion sy’n ymwneud â pheirianwaith llywodraeth, gan gynnwys ansawdd a safonau’r weinyddiaeth a ddarperir gan wasanaeth sifil Llywodraeth Cymru a Chyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Fel ei ragflaenydd, mae hefyd yn gyfrifol am graffu ar gyfrifon cyhoeddus.

 

Er mwyn helpu’r Pwyllgor i drafod y ffordd orau iddo gyflawni’r rhan hon o’i gylch gorchwyl a beth y dylai ei flaenoriaethau fod, gofynnodd y Pwyllgor am farn am y canlynol:

 

  • egwyddorion a’r arferion gorau ar gyfer craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus;
  • pa wybodaeth a thystiolaeth a fydd yn angenrheidiol i’r pwyllgor gynnal goruchwyliaeth effeithiol ar weinyddiaeth gyhoeddus;
  • materion blaenoriaeth y bydd angen i ni eu trafod efallai.

 

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 3 Rhagfyr.

 

Cynhelir cyfarfod bord gron rhwng y partïon â buddiant ar 12 Ionawr.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCCGG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565