Ymgynghoriad

Ymchwiliad i ail gartrefi

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cylch gorchwyl

Dyma gylch gorchwyl y Pwyllgor ar gyfer ei ymchwiliad:

 

Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo yn ei waith o ystyried yr ymchwiliad. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddefnyddio’r cylch gorchwyl uchod i lunio eich ymateb.

 

Cyflwyno tystiolaeth

Os ydych am ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor, e-bostiwch gopi electronig o'ch sylwadau i: SeneddTai@senedd.cymru.

 

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg. Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno’n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaeth statudol.

 

Gweler y canllawiau i’r rhai sy’n darparu tystiolaeth ar gyfer pwyllgorau a’r Hysbysiad Preifatrwydd sy’n ymwneud â chyfrannu at waith bwyllgorau'r Senedd.

 

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Byddwn fel arfer yn cyhoeddi gohebiaeth neu dystiolaeth ysgrifenedig ar ein gwefan. Os ydych wedi ymateb yn bersonol, bydd eich enw'n cael ei gyhoeddi ynghyd â'ch cyfraniad, oni bai eich bod wedi gofyn i'ch cyfraniad fod yn ddienw. Os ydych wedi ymateb mewn rhinwedd broffesiynol, bydd y fersiwn gyhoeddedig yn cynnwys eich enw, teitl/rôl eich swydd os yw'n berthnasol, ac enw eich sefydliad.

 

Cyn derbyn cyfraniadau gan unigolion o dan 13 oed, mae arnom angen awdurdodiad gan riant neu warcheidwad y person ifanc. Gellir darparu hyn ar ffurf neges e-bost gan riant neu warcheidwad y person ifanc. Ni fyddwn yn cyhoeddi enwau unigolion o dan 18 oed ochr yn ochr â'u cyfraniadau.

 

Dylai ymatebion gyrraedd erbyn dydd Gwener 14 Ionawr 2022. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol