Ymgynghoriad

Gofal plant a chyflogaeth rhieni: y pandemig a thu hwnt

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

 

Er mwyn helpu i lywio ei ymchwiliad i ofal plant a chyflogaeth rhieni, gofynnodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am safbwyntiau ar y cylch gorchwyl isod:

 

  • I ba raddau y mae'r ddarpariaeth gofal plant bresennol yng Nghymru yn cefnogi rhieni’n ddigonol, yn enwedig mamau, i gael swydd, aros yn y swydd a symud ymlaen yn y swydd, a pha newidiadau y gallai fod eu hangen i wella effeithiolrwydd y ddarpariaeth gofal plant wrth wneud hyn.
  • Pa effaith y mae’r Cynnig Gofal Plant wedi’i chael o ran cyflawni nod Llywodraeth Cymru o "helpu rhieni, mamau yn arbennig, i ddychwelyd i'r gwaith neu i gynyddu'r oriau y maent yn eu gweithio".
  • Effaith y lefelau cyfyngedig o ofal plant sydd ar gael ar lefelau cynhyrchiant yng Nghymru.
  • Sut mae trefniadau gofal plant wedi effeithio ar gyflogaeth rhieni yn ystod pandemig y coronafeirws, yn enwedig mamau. Pa wersi y gellir eu cymhwyso i roi cefnogaeth well yn ystod unrhyw gyfnodau clo yn y dyfodol neu gyfyngiadau pellach.
  • P'un a yw'r ddarpariaeth gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn ddigon hyblyg i helpu rhieni o ran cyflogaeth, yn enwedig mamau, mewn gwahanol grwpiau demograffig ac sy’n profi gwahanol amgylchiadau.
  • Effaith darpariaeth gofal plant ffurfiol o ansawdd uchel ar leihau'r bwlch cyrhaeddiad, a'r buddion posibl yn sgil ymestyn y ddarpariaeth gofal plant i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau.
  • Yr hyn y gall Cymru ei ddysgu o fodelau eraill o ddarpariaeth gofal plant sy'n gweithredu yng ngweddill y DU ac yn rhyngwladol a’r ymarfer sy’n dod i’r amlwg o ran cefnogi cyflogaeth rhieni, ac i ba raddau y gallai'r modelau hyn fod yn drosglwyddadwy yng nghyd-destun Cymru.
  • Sut y byddai angen i Lywodraeth Cymru ystyried goblygiadau ariannol ac ymarferol fel argaeledd gofal plant mewn unrhyw ddatblygiadau polisi yn y dyfodol i ymestyn y ddarpariaeth gofal plant.

 

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad tan 14 Tachwedd 2021.

 

Ar 28 Ionawr, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565