Ymgynghoriad

Effaith pandemig COVID-19, a'i reolaeth, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gwneud gwaith parhaus ar effaith pandemig COVID-19, a’i reolaeth, ar y materion sydd o fewn ei gylch gwaith. Mae manylion y gwaith y mae'r Pwyllgor wedi'i wneud hyd yn hyn ar gael ar y dudalen yr ymholiad.

 

Rhwng hydref 2021 a gwanwyn 2022, cynhaliodd y Pwyllgor alwad agored am dystiolaeth ar effaith pandemig COVID-19, a’i reolaeth, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

 

Mae'r ymgynghoriad bellach wedi cau. Os oes unrhyw faterion yn ymwneud â’r pandemig yr hoffech eu dwyn i sylw’r Pwyllgor, gallwch ysgrifennu at y Pwyllgor gan ddefnyddio’r manylion isod.

 

 

Achosion unigol

 

Er y bydd yr hol sylwadau sy’n dod i law yn helpu i lywio ein gwaith craffu thematig ar COVID-19 a’i effaith, nid ydym yn gallu rhoi cyngor ar achosion unigol na dwyn achosion o’r fath yn eu blaenau ar eich rhan. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd eich cynrychiolwyr lleol yn gallu eich cynorthwyo; gallwch ddod o hyd i’w manylion cyswllt ar ein gwefan.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am COVID-19 - er enghraifft, cwestiynau am iechyd a gofal cymdeithasol, budd-daliadau, cymorth i fusnesau, teithio, bwyd, manwerthu, canslo trefniadau neu addysg - gall y blog gan wasanaeth Ymchwil y Senedd eich cyfeirio at y wybodaeth a’r canllawiau diweddaraf, sy’n dod o ffynonellau swyddogol a dibynadwy.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

 

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565