Ymgynghoriad

Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith - 2021

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Ymgynghorodd y Pwyllgor â rhanddeiliaid dros yr haf er mwyn helpu i lywio penderfyniadau'r Pwyllgor ar beth ddylai ei brif flaenoriaethau fod yn ystod y Chweched Senedd (2021-2026).

 

Yn benodol, roedd gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn clywed eich barn am:

 

·         flaenoriaethau'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog ar gyfer y 12-18 mis nesaf. Yn benodol, pa rai o'r blaenoriaethau hyn y dylai'r Pwyllgor fod yn canolbwyntio arnynt dros y flwyddyn neu ddwy nesaf; ac

·         unrhyw bwnc arall y credwch y dylid ei flaenoriaethu dros y 12-18 mis nesaf a pham eich bod yn credu y dylai'r pwnc a awgrymir gennych fod yn flaenoriaeth i'r Pwyllgor.

 

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 10 Medi 2021.

 

:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddHinsawdd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565