Ymgynghoriad

Blaenoriaethau Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Casglodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig farn ar y materion blaenoriaeth i'w hystyried wrth gynllunio ei waith yn y dyfodol.

 

Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor, fel y cytunodd y Senedd arno ar 23 Mehefin 2021, fel a ganlyn:

 

“Archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): datblygu economaidd, adfywio, sgiliau, masnach, ymchwil a datblygu (gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth), a materion gwledig.”

 

Yn benodol, roedd y Pwyllgor eisiau gwybod:

>>>> 

>>>Beth oeddech chi'n meddwl y dylai blaenoriaethau strategol y Pwyllgor fod dros y chwe mis nesaf?

>>>Beth oeddech chi'n meddwl y dylai amcanion a blaenoriaethau tymor hwy'r Pwyllgor fod ar gyfer tymor y chweched Senedd?

<<< 

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565