Ymgynghoriad

Pwy sy'n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus?

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn cynnal ymchwiliad ynghylch pwy sy’n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu archwiliad o gerfluniau ac enwau strydoedd ac adeiladau ar draws Cymru er mwyn mynd i'r afael â chysylltiadau Cymru â masnach mewn caethweision. Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Senedd Cymru yn cynnal darn o waith ar wahân sy’n ystyried y modd y mae cymdeithas yn penderfynu pwy ddylid eu coffáu mewn mannau cyhoeddus a phryd y dylai enghreifftiau unigol o goffáu – er enghraifft cerfluniau, henebion neu enwau strydoedd – gael eu tynnu i lawr, neu eu newid, yn unol ag agweddau’r oes sydd ohoni.

 

Gan hynny, nid yw’r Pwyllgor ystyried rhinweddau a chamweddau pob achos unigol, er enghraifft cerfluniau neu enwau strydoedd. Yn hytrach, mae’n ceisio barn ar ba egwyddorion y dyild eu defnyddio i benderfynu pa unigolion sy’n cael eu coffáu, a pha brosesau i’w dilyn petai pobl eisiau i achosion unigol gael eu tynnu i lawr neu eu newid.

 

Mae'r Pwyllgor o’r farn ei bod yn bwysig bod yna broses i awdurdodau cyhoeddus ei defnyddio i bennu pa unigolion sy’n cael eu coffau mewn mannau cyhoeddus. Fel hyn, gall pobl ddeall pam mae penderfyniadau wedi'u gwneud, a chael cyfle i herio penderfyniadau nad ydyn nhw'n cytuno yn eu cylch.

 

Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb clywed eich barn ar y canlynol:

 

  • Pa egwyddorion y dylid eu dilyn pan fydd awdurdodau cyhoeddus yn penderfynu pa unigolion y dylid eu coffáu mewn mannau cyhoeddus? Sut ddylen nhw ystyried materion fel y rhai canlynol:

 

-         Arwyddocâd hanesyddol y person,

-         Dylanwad parhaus y person,

-         Effaith genedlaethol y person,

-         Effaith y person o dan sylw ar briod faes y person,

-         Beth oedd y farn am y person ar y pryd,

-         A yw'r person yn esiampl dda i bobl heddiw,

-         Arwyddocâd pensaernïol yr heneb,

-         Effaith y weithred goffáu ar grwpiau lleiafrifol a safbwyntiau.

 

  • A ddylid barnu priodoldeb gweithredoedd coffáu cyhoeddus yn erbyn meini prawf sefydlog (fel yn achos adeiladau rhestredig, er enghraifft)?  

 

  • Pa broses ddylai awdurdodau cyhoeddus ei dilyn wrth benderfynu a ddylid tynnu cerflun neu heneb i lawr neu eu trosglwyddo, neu ailenwi rhywle? Sut ddylai pobl leol fod yn rhan o'r broses hon?

 

  • Mae'r system gynllunio yn caniatáu i bobl leol gynnig sylwadau ar benderfyniad a wneir gan awdurdod cynllunio lleol, sy'n gwneud penderfyniad yn seiliedig ar set gyffredin o reolau. Pa mor briodol fyddai system debyg ar gyfer delio â gweithredoedd dadleuol o goffáu unigolion yn gyhoeddus?

 

  • Os bernir bod cerfluniau neu henebion yn amhriodol, i ba raddau y mae'n addas eu gosod mewn cyd-destun newydd (er enghraifft, trwy ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar blac) yn hytrach na'u tynnu i lawr?

 

  • Os bydd cerfluniau neu henebion hanesyddol yn cael eu tynnu i lawr, beth ddylid ei wneud gyda nhw?

 

  • A oes unrhyw enghreifftiau rhyngwladol o lywodraethau'n mynd i’r afael yn effeithiol â gweithredoedd hanesyddol dadleuol o goffáu unigolion yn gyhoeddus?

 

  • A oes unrhyw unigolion neu grwpiau o bobl sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol wrth gael eu coffáu’n gyhoeddus yng Nghymru?

 

Sut i ymateb:

Anfonwch eich ymateb atom trwy e-bostio

seneddCWLC@senedd.cymru

 

Dyddiad cau: 26 Hydref 2020

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddDGCh@@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565

 

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Senedd

Partneriaid a Helpu