Ymgynghoriad

Effeithiau COVID-19: Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Galwad Agored am dystiolaeth a phrofiadau

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn archwilio effeithiau’r pandemig COVID-19 ar yr holl feysydd sydd o fewn ei gylch gwaith. Mae gan yr aelodau ddiddordeb yn effeithiau'r pandemig; y mesurau a fabwysiadwyd i arafu'r lledaeniad; a’r cymorth sy’n cael ei gynnig i helpu pobl, cwmnïau a sefydliadau eraill yn ystod y pandemig. Mae gan yr aelodau ddiddordeb penodol mewn casglu tystiolaeth a safbwyntiau gan edrych at y dyfodol i weld beth y mae angen ei wneud i helpu'r genedl i adfer.

 

Isod, ceir rhestr o’r meysydd sydd o ddiddordeb i'r Pwyllgor. Fodd bynnag, nid yw’r rhestr yn gwbl gynhwysfawr. Hoffai’r aelodau glywed eich barn am unrhyw feysydd eraill o fewn ein cylch gwaith yr hoffech dynnu ein sylw atynt.

 

  • Effeithiau ar yr economi a busnes – gan gynnwys yr effaith ar wahanol sectorau;
  • Effeithiau ar swyddi – gan gynnwys cadw swyddi a diogelwch yn y gwaith;
  • Effeithiau ar drafnidiaeth – gan gynnwys effaith tymor byr a thymor hir y feirws ar y galw, patrymau teithio a'r modd a ddefnyddir a sut y dylid rheoli hyn, cymorth ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy a sut y gall trafnidiaeth gyhoeddus weithredu'n ddiogel yn ystod y pandemig i deithwyr a staff;
  • Effeithiau ar brentisiaethau a darpariaeth sgiliau arall – gan gynnwys profiadau prentisiaid, cwmnïau sy'n cyflogi prentisiaid, sefydliadau sy'n darparu hyfforddiant a sut y gallai sgiliau a'r system sgiliau gyfrannu at adferiad y genedl;
  • Cefnogaeth y Llywodraeth a'r sector cyhoeddus ehangach i bob un o'r uchod – gan gynnwys a yw'r gefnogaeth yn gweithio, neu a oes bylchau, a pha waith mireinio sydd ei angen neu pa gymorth ychwanegol y gellid ei gynnig?;
  • Adferiad – mae hyn yn cynnwys beth sydd angen ei wneud i helpu Cymru i wella o'r epidemig. Mae hyn yn cynnwys camau y dylid eu cymryd gan y llywodraeth, yn fasnachol neu gan gymunedau/y trydydd sector, i helpu’r meysydd a gwmpesir gan y Pwyllgor i wella. Mae hefyd yn cynnwys sut y gall y maes a gwmpesir gan yr economi gynorthwyo gyda'r adferiad e.e. sut gellir defnyddio hyfforddiant sgiliau i gynorthwyo adferiad.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565