Ymgynghoriad

Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) (‘y Bil’). Mae rhagor o fanylion am y Bil ar gael ar dudalen y Bil ar y we.

 

Cylch gorchwyl

 

Ystyried:

 

  • Egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) ac a oes angen deddfwriaeth i gyflawni'r bwriad polisi a nodir yn y Bil. Wrth ffurfio barn ar y mater hwn, efallai y byddwch am ystyried adrannau unigol o’r Bil.

 

  • Darpariaethau'r Bil mewn perthynas â:

    (i) Rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol:

 

  • Sefydlu Cynlluniau Partneriaeth Cymru

(Adrannau 2-12);

 

  • Sefydlu Cynlluniau Masnachfreinio Cymru

(Adrannau 13-20);

 

  • Gofyn am wybodaeth gan weithredwyr bysiau sy'n gweithredu mewn ardal ynglŷn â’r naill gynllun uchod neu’r llall (Adran 21);

 

  • Sefydlu a rhedeg gwasanaethau bysiau sy'n eiddo i'r Awdurdod Lleol (Adran 22).

 

(ii) Cyflwyno gofynion ar weithredwyr bysiau o ran:

 

  • Darparu gwybodaeth am wasanaethau gan weithredwyr gwasanaethau lleol (Adran 23);

 

  • Y pŵer iw gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu am wasanaethau bysiau (Adran 24).

 

(iii) Y pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol drwy reoliadau (Adran 27).

 

(iv) Y diwygiadau canlyniadol a’r diwygiadau atodol a geir yn yr Atodlen.

 

  • Unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi darpariaethau'r Bil ar waith, ac a yw’r Bil yn eu hystyried;

 

  • Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 Rhan 1 y Memorandwm Esboniadol a'r datganiad o fwriad y polisi)

 

  • A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil;

 

  • Goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol).

 

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i'r ymchwiliad hwn yw 24 Ebrill 2020.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565