Ymgynghoriad

Symposiwm i randdeiliaid ynghylch 'Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru mewn ysgolion'

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ddigwyddiad i randdeiliaid yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe er mwyn cynnal trafodaeth ynghylch 'addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru mewn ysgolion'.

Cefndir

Cynhaliodd y Pwyllgor arolwg cyhoeddus yn ystod tymor yr haf 2018, gan wahodd aelodau o'r cyhoedd i ddewis o restr o bynciau posibl ar gyfer ymchwiliad. Cymerodd bron i 2,500 o bobl ran yn yr arolwg, gyda 44 y cant ohonynt yn pleidleisio dros 'Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru mewn ysgolion' fel pwnc.

Roedd llawer o’r rhai a oedd o blaid gweld y Pwyllgor yn cynnal yr ymchwiliad hwn yn dadlau nad yw hanes Cymru yn cael ei addysgu o bersbectif Cymreig, ac yn dadlau nad oes digon ohono yn y cwricwlwm.

Fodd bynnag, mynegodd eraill y farn bod cryn sylw eisoes yn cael ei roi i'r pwnc hwn o fewn y manylebau TGAU a Safon Uwch/Uwch Gyfrannol presennol, a bod hen ddigon o gyfleoedd i'w astudio yn yr ysgol cyn hynny. Er enghraifft, mae Kirsty Williams AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn Llywodraeth Cymru, wedi dweud bod llawer mwy o bwyslais ar yr angen i ddysgu agweddau ar hanes Cymru i blant fel rhan o’r manylebau hanes newydd ar gyfer Safon Uwch/Uwch Gyfrannol a TGAU.

Diben y sesiwn

Cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad undydd i randdeiliaid er mwyn casglu sylwadau.

Pwyntiau trafod

Canolbwyntiodd y Pwyllgor ar y pwyntiau trafod a ganlyn:

-     I ba raddau y mae'r cwricwlwm cyfredol a'r manylebau hanes ar gyfer TGAU a Safon U/UG yn sicrhau bod digon o hanes Cymru a/neu hanes o bersbectif Cymreig yn cael ei addysgu mewn ysgolion.

 

-     P'un a fydd y cwricwlwm newydd i Gymru, sy'n cael ei ddatblygu yn dilyn Adolygiad Donaldson, yn gwella’r cyfleoedd i ddysgu hanes Cymru a/neu hanes o safbwynt Cymreig neu'n cyfyngu arnynt.

 

-     Sut i daro'r cydbwysedd cywir rhwng hyblygrwydd a disgresiwn i weithwyr addysg proffesiynol gyflwyno cwricwlwm lleol sy'n addas i'w hysgolion penodol, a sicrhau cysondeb a sylw digonol i hanes Cymru a phersbectif Cymreig ar yr hyn a addysgir.

 

-     I ba raddau y mae’r cyhoedd ehangach yng Nghymru yn ymwybodol o hanes, diwylliant a threftadaeth eu cenedl, ac yn cael cyfleoedd i ddysgu am y pethau hyn.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddDGCh@@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565