Ymgynghoriad

Sepsis

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Ymgynghoriad

Byddai’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn croesawu eich sylwadau fel rhan o’i ymchwiliad i Sepsis.

 

Cylch Gorchwyl:

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn galw am dystiolaeth ynghylch:

  • Pa ddealltwriaeth sydd o fynychder sepsis, goblygiadau sepsis i wasanaethau, a chanlyniadau o sepsis.
  • Ymwybyddiaeth gyhoeddus a phroffesiynol o sepsis.
  • Canfod a rheoli achosion o sepsis mewn ysbytai ac y tu allan i ysbytai, gan gynnwys defnyddio offer/canllawiau sgrinio priodol, ynghyd â’r broses gyfeirio rhwng gofal sylfaenol a gofal eilaidd.
  • Canfod/rheoli sepsis mewn amgylchedd (ysbyty) acíwt.
  • Yr effaith gorfforol a meddyliol ar y rheiny sydd wedi trechu sepsis, a’u hanghenion o ran cymorth

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion oedd 12 Rhagfyr 2019.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565