Ymgynghoriad

Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit – y goblygiadau i Gymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Casglu tystiolaeth:

Cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ymgynghoriad ar newidiadau rhyddid i symud ar ôl Brexit- y goblygiadau i Gymru.

Gyda'r bwriad o ddylanwadu ar feddylfryd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn y maes hwn, cafodd y Pwyllgor farn rhanddeiliaid ynghylch goblygiadau polisi y cynigion hyn i Gymru.

Yn benodol, roedd y Pwyllgor am gael barn rhanddeiliaid ar y cwestiynau a ganlyn:

  • Beth yw eich asesiad o'r goblygiadau i Gymru yn deillio o gynigion Papur Gwyn Llywodraeth y DU ynghylch mewnfudo ar ôl Brexit?
  • A oes dadl dros ganiatáu i'r gwledydd datganoledig wneud pethau'n wahanol mewn perthynas â pholisi mewnfudo ar ôl Brexit?
  • Beth yw eich barn ar y cynnig i gael Rhestr Galwedigaethau Prin (“SOL”) sy'n benodol i Gymru?
  • Beth yw eich barn ar y cynnig i ymestyn Haen 2 i gynnwys dinasyddion yr UE, a rhoi'r gorau i unrhyw wahaniaethu rhwng gweithwyr yr UE a gweithwyr nad ydynt yn rhan o'r UE? 
  • Beth yw eich barn ar y trothwy cyflog o £30,000 ar gyfer mewnfudo yng nghyd-destun Haen 2 a'i oblygiadau i Gymru?
  • Pa mor hwylus yw'r broses o weithredu Cynllun Setliad yr UE? A oes mwy y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod gwladolion yr UE sy'n byw yng Nghymru yn cofrestru o dan y cynllun?
  • A oes unrhyw faterion eraill yn ymwneud â pholisi mewnfudo ar ôl Brexit yr hoffech eu dwyn i sylw'r Pwyllgor? 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth oedd 10 Medi 2019.

Datgelu gwybodaeth

 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr sicrhau eu bod wedi ystyried polisi'r Senedd ar ddatgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddMADY@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565