Ymgynghoriad

Rhwystrau sy'n wynebu cwmnïau bach sy'n adeiladu cartrefi

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am gael eich barn am:

  • Asesu'r rhwystrau sy'n wynebu cwmnïau bach sy'n adeiladu tai, i gynnwys ystyried:
    • Argaeledd ac effeithiolrwydd cyllid a chymorth Llywodraeth Cymru (ac eraill) ar gyfer cwmnïau bach sy'n adeiladu cartrefi
    • Argaeledd gweithlu medrus yn y sector adeiladu
    • Mynediad at safleoedd datblygu addas
    • Y system gynllunio ac i ba raddau y mae'n mynd ati i hwyluso datblygiadau gan gwmnïau bach sy'n adeiladu cartrefi
    • Sefyllfa drechol nifer fach o gwmnïau mawr
  • Deall cyfran y tai newydd yng Nghymru a ddarperir gan gwmnïau bach sy'n adeiladu cartrefi ar hyn o bryd, gan gynnwys ystyried:
    • Effaith Cymorth i Brynu – Cymru
    • Yr effaith bosibl o gynyddu'r gyfran o dai newydd yng Nghymru a ddarperir gan gwmnïau bach sy'n adeiladu tai
    • Y graddau y mae cwmnïau bach sy'n adeiladu cartrefi yn cael eu cynnwys wrth ddarparu tai fforddiadwy (gan gynnwys effaith rheolau caffael presennol)

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno barn i'r ymarfer hwn ddydd Gwener 11 Ionawr 2019.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565