Ymgynghoriad

Prynu Gorfodol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am gael eich barn am:

  • A oes unrhyw rwystrau rhag defnyddio pwerau prynu gorfodol? Os felly, sut ellir eu goresgyn?
  • A oes unrhyw rwystrau penodol i'r defnydd o bryniant gorfodol i:
    • adfywio canol trefi; a / neu
    • ddatblygu cyfleoedd ar gyfer teithio llesol?
  • A oes gan awdurdodau lleol ddigon o adnoddau a'r sgiliau cywir er mwyn defnyddio'u pwerau prynu gorfodol yn effeithiol?
  • Beth yw eich barn ynglŷn â chynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer symleiddio'r broses Gorchymyn Prynu Gorfodol, fel y nodir yn ei ymgynghoriad ar ganiatâd seilwaith?

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno barn i'r ymarfer hwn yw 14:00 ddydd Mercher, 12 Medi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni. Er eglurder, nid oes ffurflen ddynodedig ar gyfer cyflwyniadau. I'r rhai a hoffai gyflwyno eu hymateb yn electronig, anfonwch eich cyflwyniad yng nghorff e-bost neu fel atodiad i: SeneddESS@cynulliad.cymru

I'r rhai a hoffai gyflwyno eu barn ar ffurf copi caled, gellir cyfeirio llythyrau fel a ganlyn:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ty Hywel, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565