Ymgynghoriad

Bil Awtistiaeth (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn ymgymryd ag ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru). Ceir rhagor o fanylion am y Bil a'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef ar dudalen y Bil.

Cylch gorchwyl

I'w ystyried:

  • egwyddorion cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru) a'r graddau y bydd yn darparu ar gyfer diwallu anghenion plant ac oedolion sydd ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) yng Nghymru a chyflawni’r nod o ddiogelu a hyrwyddo eu hawliau;
  • unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi'r darpariaethau hyn ar waith ac a yw'r Bil yn eu hystyried;
  • a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil;
  • goblygiadau ariannol y Bil (fel y'u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol);
  • priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 6 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol).

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth ar y cylch gorchwyl a'r graddau y bydd y Bil yn cyflawni’r nod o ddiogelu a hyrwyddo hawliau plant ac oedolion ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) yng Nghymru.

Dylai unrhyw dystiolaeth ddod i law erbyn 14 Medi 2018.

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig i seneddiechyd@cynulliad.cymru.

Byddwn hefyd yn cynnal grwpiau ffocws dros yr haf i bobl sydd ag ASD a'u teuluoedd roi eu barn i ni am y Bil. Os hoffech gymryd rhan mewn grŵp ffocws, cysylltwch â Sally.Jones11@cynlluiad.cymru am ragor o wybodaeth.

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565