Ymgynghoriad

Fframweithiau cyffredin y DU ar amaethyddiaeth a’r amgylchedd

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ymchwiliad i fframweithiau cyffredin y DU sy'n ofynnol yn absenoldeb cyfraith yr UE pan fyddwn yn gadael yr UE.

Ar 9 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei asesiad dros dro o ble y byddai angen fframweithiau cyffredin y DU ar ôl Brexit mewn ardaloedd o gyfraith yr UE o fewn cymhwysedd datganoledig. Mae llawer o'r meysydd polisi yn dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor. Mae'r ddogfen yn disgrifio ei ddiben fel a ganlyn:

Dogfen weithredol yw hwn, a luniwyd i hysbysu ymgysylltiad rhwng swyddogion yn y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a'r gwasanaeth sifil yng Ngogledd Iwerddon. Mae'n nodi asesiad dros dro Llywodraeth y DU o feysydd o gyfraith yr UE sy'n croesi â chymhwysedd datganoledig ym mhob gweinyddiaeth ddatganoledig. Mae'n bosibl y bydd safleoedd polisi a nodir yn y ddogfen hon yn newid yn dilyn dadansoddiad pellach, gan gynnwys ar farchnad fewnol y DU, ac wrth i drafodaethau rhwng y DU a llywodraethau datganoledig fynd rhagddynt. Gan fod y setliadau datganoledig yn anghymesur, mae gwahanol bwerau'n berthnasol i'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Mae'r asesiad yn rhoi 155 o bwerau i mewn i 3 categori: y rheini y gallai fod angen fframweithiau deddfwriaethol arnynt; fframweithiau anneddfwriaethol; neu ddim gweithredu pellach.

Gwnaethom edrych ar:

  • Ym mha feysydd polisi, o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, y mae angen fframweithiau cyffredin deddfwriaethol ac anneddfwriaethol? Ydy'r asesiad dros dro a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn nodi dull priodol ac a yw'n gyflawn? A oes gennych unrhyw bryderon penodol ynglŷn â'r categori arfaethedig?
  • Sut y dylid datblygu a gweithredu'r fframweithiau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol?
  • Pa mor argymhellol y dylai'r fframweithiau cyffredin fod a faint o ddisgresiwn y dylai pob gweinyddiaeth ei gael o fewn y fframweithiau?

Nodyn: Mae cylch gwaith y Pwyllgor yn cynnwys: newid yn yr hinsawdd; ynni; rheoli cyfoeth naturiol; cynllunio; lles anifeiliaid ac amaethyddiaeth.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565