Ymgynghoriad

Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am gael eich barn am gylch gorchwyl yr ymchwiliad.

Cylch gorchwyl

  • Cyflwr presennol y ffyrdd yng Nghymru, ac a yw’r dull o ariannu a chyflawni rhaglenni cynnal a chadw ar gyfer y rhwydwaith o ffyrdd lleol, y cefnffyrdd a’r traffyrdd yng Nghymru yn effeithiol, yn cael eu rheoli i amharu cyn lleied â phosibl ar ddefnyddwyr ffyrdd, ac yn darparu gwerth am arian;
  • A yw’r prosiectau gwella mawr ar y rhwydwaith o ffyrdd lleol, y cefnffyrdd a’r traffyrdd yn cael eu blaenoriaethu, eu hariannu, eu cynllunio a’u cyflawni’n effeithiol, ac yn rhoi gwerth am arian. Mae materion perthnasol yn cynnwys y dull gweithredu o gynnwys contractwyr yn gynnar, a’r cyfleoedd a gynigir gan Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru; ac
  • A yw Cymru yn gynaliadwy o ran cynnal a chadw a gwella ei rhwydwaith ffyrdd yng nghyd-destun deddfwriaeth allweddol megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565