Ymgynghoriad

Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi galw am wybodaeth i gynorthwyo gyda’r gwaith o graffu ar gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19. Roedd ganddynt ddiddordeb mewn ymchwilio i’r disgwyliadau o ran cyllideb 2018-19, gan gynnwys parodrwydd ariannol ar gyfer blwyddyn 2018-19 ac effaith cyllideb 2017-18.

 

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol. Rydym hefyd yn cydweithio â phwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau y caiff cynigion ar gyfer adrannau neu bortffolios cabinet penodol eu hystyried yn fanwl. Bydd y pwyllgorau yn cynnal eu sesiynau eu hunain i ganolbwyntio ar dystiolaeth er mwyn edrych yn fanwl ar yr agweddau ar y gyllideb sydd o fewn eu cylchoedd gwaith hwy. 

 

Gofynnodd y Pwyllgorau am eich barn ar y cwestiynau penodol sydd yn y llythyr ymgynghori (PDF, 41KB).

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565