Ymgynghoriad

Polisi coedwigoedd a choetiroedd yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Lansiodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i bolisi coedwigaeth a choetiroedd yng Nghymru.

 

Roedd yn cynnwys ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi ei strategaeth Coetiroedd i Gymru ar waith.

 

Rhoddodd Llywodraeth Cymru y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor yn ddiweddar am yr hyn y mae wedi'i gyflawni o ran ei flaenoriaethau yn y strategaeth.

 

Ein nod oedd asesu i ba raddau y mae pedair thema strategol y strategaeth yn cael eu cyflawni. Gofynnwyd ichi roi gwybod inni i ba raddau mae Llywodraeth Cymru, yn eich barn chi, yn cyflawni’r themâu hyn, sef:

  • ymateb i'r newid yn yr hinsawdd – ymdopi â newid yn yr hinsawdd a helpu i leihau ein hôl-troed carbon;
  •  coetiroedd i bobl – gwasanaethu anghenion lleol o ran iechyd, addysg a swyddi;
  • sector coedwigoedd cystadleuol ac integredig – diwydiannau arloesol a medrus yn creu cynnyrch adnewyddadwy o Gymru; ac
  • ansawdd amgylcheddol – gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth, tirweddau a threftadaeth, a lleihau pwysau amgylcheddol eraill.

 

Roeddem hefyd am ichi roi gwybod i ni:

  • sut mae'r strategaeth yn cyfrannu at gyflawni dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016;
  • sut y bydd y strategaeth yn cael ei hystyried yng nghyd-destun polisïau, cynlluniau a datganiadau sy'n dod i'r amlwg (e.e. y Polisi Cenedlaethol ar Adnoddau Naturiol, Cynlluniau Bioamrywiaeth a Datganiadau Ardal); a'r
  • heriau a'r cyfleoedd sy'n codi yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565