Ymgynghoriad
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 10 Tachwedd 2016 a Dydd Gwener, 16 Rhagfyr 2016
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- PHB 01 Brian Jones (Saesneg yn unig)
PDF 25 KB Gweld fel HTML (2) 13 KB
- PHB 02 Unigolyn (Saesneg yn unig)
PDF 11 KB Gweld fel HTML (3) 3 KB
- PHB 03 Conffederasiwn GIG Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 132 KB Gweld fel HTML (4) 105 KB
- PHB 04 Iechyd Cyhoeddus Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 363 KB Gweld fel HTML (5) 234 KB
- PHB 05 Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (Saesneg yn unig)
PDF 96 KB Gweld fel HTML (6) 70 KB
- PHB 06 Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (Saesneg yn unig)
PDF 20 KB Gweld fel HTML (7) 9 KB
- PHB 07 Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 62 KB Gweld fel HTML (8) 38 KB
- PHB 08 BMA Cymru Wales (Saesneg yn unig)
PDF 98 KB Gweld fel HTML (9) 45 KB
- PHB 09 Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru
PDF 32 KB Gweld fel HTML (10) 18 KB
- PHB 10 Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (Saesneg yn unig)
PDF 36 KB Gweld fel HTML (11) 32 KB
- PHB 11 Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (Saesneg yn unig)
PDF 26 KB Gweld fel HTML (12) 12 KB
- PHB 12 Fferylliaeth Gymunedol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 58 KB Gweld fel HTML (13) 36 KB
- PHB 13 Cytûn
PDF 36 KB Gweld fel HTML (14) 14 KB
- PHB 14 Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 34 KB Gweld fel HTML (15) 13 KB
- PHB 15 Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 142 KB Gweld fel HTML (16) 26 KB
- PHB 16 Coleg Brenhinol y Meddygon (Cymru) (Saesneg yn unig)
PDF 884 KB
- PHB 17 Un Llais Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 51 KB Gweld fel HTML (18) 13 KB
- PHB 18 Diabetes UK Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 140 KB Gweld fel HTML (19) 43 KB
- PHB 19 Cancer Research UK (Saesneg yn unig)
PDF 741 KB
- PHB 20 Penaethiaid Iechyd yr Amgylchedd Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 91 KB Gweld fel HTML (21) 48 KB
- PHB 21 Age Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 50 KB Gweld fel HTML (22) 26 KB
- PHB 22 British Heart Foundation (Saesneg yn unig)
PDF 516 KB
- PHB 23 Company Chemists Association Ltd (Saesneg yn unig)
PDF 61 KB Gweld fel HTML (24) 27 KB
- PHB 24 Japan Tobacco International (Saesneg yn unig)
PDF 731 KB
- PHB 25 Liz Vann, Uwch Swyddog Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (Saesneg yn unig)
PDF 118 KB Gweld fel HTML (26) 11 KB
- PHB 26 Cymorth Canser Macmillan (Saesneg yn unig)
PDF 213 KB Gweld fel HTML (27) 42 KB
- PHB 27 Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (Saesneg yn unig)
PDF 156 KB Gweld fel HTML (28) 51 KB
- PHB 28 Cyngor Sir Penfro (Saesneg yn unig)
PDF 73 KB Gweld fel HTML (29) 56 KB
- PHB 29 ASH Wales Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 72 KB Gweld fel HTML (30) 37 KB
- PHB 30 Cymdeithas Siopau Cyfleustra (Saesneg yn unig)
PDF 582 KB Gweld fel HTML (31) 50 KB
- PHB 31 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Saesneg yn unig)
PDF 164 KB Gweld fel HTML (32) 41 KB
- PHB 32 Ffederasiwn Cenedlaethol Manwerthwyr Papurau Newydd (Saesneg yn unig)
PDF 567 KB
- PHB 33 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
PDF 1 MB
- PHB 34 Cymdeithas Fferyllol Frenhinol (Saesneg yn unig)
PDF 52 KB Gweld fel HTML (35) 27 KB
- PHB 35 Fontem Ventures (Saesneg yn unig)
PDF 153 KB Gweld fel HTML (36) 24 KB
- PHB 36 Comisiynydd Plant Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 598 KB
- PHB 37 Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd (Saesneg yn unig)
PDF 681 KB
- PHB 38 Crohn’s and Colitis UK (Saesneg yn unig)
PDF 642 KB
- PHB 39 Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint (Saesneg yn unig)
PDF 136 KB Gweld fel HTML (40) 35 KB
- PHB 40 Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (Saesneg yn unig)
PDF 52 KB Gweld fel HTML (41) 30 KB
- PHB 41 Comisiynydd y Gymraeg
PDF 626 KB
- PHB 41 Comisiynydd y Gymraeg Atodiad
PDF 286 KB
- PHB 42 British Tattoo Artist Federation (Saesneg yn unig)
PDF 191 KB Gweld fel HTML (44) 2 KB
- PHB AI 01 Comisiynydd Plant Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 334 KB
- PHB AI 02 Coleg Brenhinol y Meddygon (Cymru) (Saesneg yn unig)
PDF 744 KB
- PHB AI 03 Crohn's and Colitis UK (Saesneg yn unig)
PDF 6 MB
Diben yr ymgynghoriad
Diben
yr ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig ar gael ar dudalen y Bil.
Cylch
gorchwyl
Ystyried—
- egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) i wella a diogelu iechyd a
llesiant pobl Cymru, yn benodol drwy:
- ailddatgan
y cyfyngiadau ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig a sylweddol gaeedig
a gweithleoedd, a rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i
ymestyn y cyfyngiadau ar ysmygu i fangreoedd ychwanegol neu gerbydau;
- gosod
cyfyngiadau ar ysmygu ar dir ysgolion, tir ysbytai a meysydd chwarae
cyhoeddus;
- darparu
ar gyfer creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion
nicotin;
- rhoi'r
pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ychwanegu at y troseddau
sy’n cyfrannu at Orchymyn Mangre o dan Gyfyngiad yng Nghymru;
- gwahardd
rhoi tybaco a/neu gynhyrchion nicotin i unigolyn o dan 18 oed;
- darparu
ar gyfer creu cynllun trwyddedu mandadol i ymarferwyr a busnesau sy’n
cynnal “triniaethau arbennig” sef aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a
thatŵio;
- cyflwyno
gwaharddiad ar dyllu rhannau personol o gorff unigolyn o dan 16 oed;
- ei
gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i'w gwneud yn
ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnal asesiadau o'r effaith ar iechyd mewn
amgylchiadau penodedig;
- newid
y trefniadau ar gyfer penderfynu ar geisiadau i fod ar restr fferyllol y
byrddau iechyd, i system sy’n seiliedig ar anghenion fferyllol cymunedau
lleol;
- ei
gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi strategaeth leol i gynllunio
sut y byddant yn diwallu anghenion eu cymunedau ar gyfer defnyddio
cyfleusterau toiledau a fydd ar gael i’r cyhoedd; a
- galluogi
'awdurdod bwyd' o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 i gadw
derbyniadau cosb benodedig sy'n deillio o droseddau o dan y Ddeddf honno, er mwyn gorfodi'r cynllun sgorio hylendid bwyd.
- unrhyw
rwystrau posibl rhag rhoi'r darpariaethau hyn ar waith ac a yw'r Bil yn eu
hystyried;
- a
oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil;
- goblygiadau
ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol);
- priodoldeb
y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir
ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol).
Gwahoddiad
i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth am y cylch
gorchwyl a’r graddau y mae’r Bil yn adlewyrchu blaenoriaethau ar gyfer gwella
ac amddiffyn iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 16 Rhagfyr 2016.
Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi
electronig ohoni i: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru.
Rhowch wybod i ni
os ymateboch i ymgynghoriad blaenorol y Pwyllgor sy'n ein rhagflaenu ar Fil
Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (2015) ac yn dymuno i'r Pwyllgor
ystyried eich ymateb cynharach (neu fersiwn wedi'i diweddaru o'r ymateb hwnnw)
fel rhan o'i waith craffu ar y Bil hwn.
Canllawiau
Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen
A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch
gorchwyl.
Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi
disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.
Gweler y canllawiau i dystion sy'n
cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau.
Polisi
dwyieithog
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn
Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau/cynlluniau iaith Gymraeg
ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.
Datgelu
gwybodaeth
Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich
gwybodaeth yn http://www.assembly.wales/cy/help/privacy/Pages/help-inquiry-privacy.aspx. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn
cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565