Ymgynghoriad

Dyfodol Cyllido

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymchwiliad i Ddyfodol Cyllido. Mae’r dadleuon ynghylch cyllid teg i Gymru wedi cael eu nodi yn adroddiad Comisiwn Holtham yn 2010 ac adroddiad Comisiwn Silk (Rhan 1) yn 2012, a bu datblygiadau mwy diweddar ledled y DU a all effeithio ar setliad datganoli Cymru.

 

Mae ymchwiliad y Pwyllgor yn canolbwyntio ar:

  • Y prif wendidau yn y setliad ariannol i Gymru a sut y gellir mynd i’r afael â’r gwendidau hyn;
  • Sut y gallai’r cytundeb ynghylch model cadw pwerau i Gymru, a’r cynigion datganoli Ddydd Gŵyl Dewi eraill, effeithio ar ddyfodol cyllido;
  • Adolygu datblygiadau ar y materion cydgyfeirio, tanariannu a diwygio Barnett a nodwyd yn adroddiadau Holtham a Barnett;
  • Y wybodaeth ariannol ac economaidd sydd ei hangen ar Lywodraethau Cymru a’r DU er mwyn cefnogi trefniadau cyllido yn y dyfodol.

 

Byddai’r Pwyllgor yn croesawu’ch sylwadau ar y canlynol:

  • Beth yw’r prif wendidau yn y setliad ariannol presennol i Gymru?
  • Sut y gellir mynd i’r afael â’r gwendidau hyn?
  • Sut y bydd y newidiadau sydd ar y gweill mewn perthynas â:
    • model cadw pwerau i Gymru, cynigion datganoli Ddydd Gŵyl Dewi ac
    • argymhellion Comisiwn Smith,
    • yn effeithio ar drefniadau cyllido Llywodraeth Cymru yn y dyfodol?
  • Pa wybodaeth ariannol ac economaidd sydd ei hangen ar Lywodraethau Cymru a’r DU er mwyn cefnogi trefniadau cyllido yn y dyfodol?
  • A oes unrhyw faterion o ran datblygiadau ar y materion cydgyfeirio, tanariannu a diwygio Barnett y dylai’r Pwyllgor fod yn ymwybodol ohonynt?
  • Sut y gallai Llywodraeth y DU yn y dyfodol ymgorffori gofynion gan Lywodraeth Cymru am ddull ariannu datganoledig sy’n seiliedig ar anghenion?
  • A ddylid penderfynu ar setliadau datganoli ariannol Cymru a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill mewn modd cydlynol neu fel cyfres o gytundebau dwyochrog?
  • Pa egwyddorion y dylid eu mabwysiadu i lywio’r broses o ddatganoli pwerau cyllidol ymhellach mewn modd sy’n sicrhau tegwch a hyblygrwydd?

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion yn Gymraeg neu yn Saesneg gan unigolion a sefydliadau, a bydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar maes o law.

 

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid (Pedwerydd Cynulliad)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565