Ymgynghoriad

Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Gofynnodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru am dystiolaeth ar egwyddorion cyffredinol y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).

 

Beth y mae'r Bil hwn yn gobeithio ei gyflawni?

Diben datganedig y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) yw ei gwneud yn ofynnol i gyrff y gwasanaeth iechyd wneud darpariaeth ar gyfer lefelau diogel o staff nyrsio, a sicrhau bod niferoedd digonol o nyrsys i:

  • sicrhau darparu gofal nyrsio diogel i gleifion bob amser;
  • gwella amodau gwaith staff nyrsio a staff eraill; a
  • cryfhau atebolrwydd o ran diogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd cynllunio a rheoli'r gweithlu.

 

Mae'r Bil a'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef ar gael ar wefan y Cynulliad.

 

Beth yw rôl y Pwyllgor?

Rôl y Pwyllgor yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a'r angen am ddeddfwriaeth, a chyflwyno adroddiad ar hyn. 

Ystyried:

  • ai'r darpariaethau yn y Bil yw'r ffordd orau o gyflawni ei bwrpas cyffredinol fel y nodir yn Rhan 1;
  • rhwystrau posibl i weithredu'r darpariaethau hyn ac a yw'r Bil yn eu hystyried;
  • a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil;
  • goblygiadau ariannol y Bil fel y nodir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn y Memorandwm Esboniadol;
  • pa mor briodol yw'r pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth a chyhoeddi canllawiau.

 

Y Cadeirydd, David Rees AC, yn siarad am yr ymgynghoriad.

 

Mae’r ymgynghoriad nawr wedi cau.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565