Ymgynghoriad

Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Consultation results

Diben yr ymgynghoriad

Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw holi barn pawb sydd â diddordeb yn y maes er mwyn fy helpu i lunio cynnwys y Bil arfaethedig. Byddai’r Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) yn ceisio sicrhau bod pobl Cymru’n fwy llewyrchus eu byd, a hynny drwy wella’u haddysg a’u llythrennedd ariannol. Yn fras, gellir rhannu fy nghynigion i ddau gategori gwahanol:

  • Gwella gallu ariannol plant oedran ysgol a phobl ifanc drwy ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i addysg ariannol gael ei chynnwys yn rhan o gwricwlwm ysgolion;
  • Cryfhau’r rôl sydd gan awdurdodau lleol wrth helpu pobl i osgoi trafferthion ariannol, a hynny drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau fabwysiadu strategaeth cynhwysiant ariannol. Nod y strategaeth hon fydd hyrwyddo llythrennedd ariannol a mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â chynhwysiant ariannol.

Bwriadaf hefyd gyflwyno darpariaethau eraill yn y Bil yn ymwneud â defnyddio’r rhyngrwyd mewn llyfrgelloedd cyhoeddus; addysg ariannol plant sy’n derbyn gofal; a’r modd y caiff pobl eu cyfeirio at wybodaeth am reoli arian.

 

Arolwg

 

Gallwch gyfrannu trwy gwblhau’r holiadur hwn os nad oes amser gyda chi i ddanfon eich sylwadau yn ysgrifenedig. Mae’r holiadur yn cynnwys 13 o gwestiynau amlddewis, wedi ei wasgaru dros chwe thudalen ac ni ddylai gymryd mwy na 10 munud i'w gwblhau.

 

Dogfennau ategol