Dolenni cyflym

Craffu ar y Gyllideb

Yn unol â Rheol Sefydlog 19, rhaid i’r Pwyllgor Cyllid ystyried a chyflwyno adroddiad ar unrhyw ddogfen a osodir gerbron y Senedd gan Weinidogion Cymru neu Gomisiwn y Senedd sy’n cynnwys cynigion o ran defnyddio adnoddau.

Gall y Pwyllgor hefyd ystyried ac adrodd ar unrhyw fater arall sy’n ymwneud â gwariant o Gronfa Gyfunol Cymru, neu wariant sy’n effeithio arni.

Fel rhan o’i gyfrifoldebau, mae’r Pwyllgor yn craffu ar y canlynol fel rhan o’r cylch cyllideb blynyddol:

Craffu ar y gyllideb

Cylch gwaith

Cylch gwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 22 Mehefin 2016. Mae cylch gwaith y Pwyllgor, a ddiwygiwyd yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Tachwedd 2019, fel a ganlyn:

  1. cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10, 18.11, 18A.2 (iv) a (v), 19 ac 20 y Senedd;
  2. o dan Reolau Sefydlog 19 ac 20, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys ystyried unrhyw adroddiad neu ddogfen a osodir gerbron y Senedd mewn perthynas â'r defnydd o adnoddau, neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, gan gynnwys ymgymryd â gwaith craffu ar gyllideb cyrff a ariennir yn uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru;
  3. o dan Reolau Sefydlog 18.10 a 18.11, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio'r gwaith o lywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru, fel y nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013;
  4. o dan Reol Sefydlog 18A.2 (iv) a (v), i arfer swyddogaethau cyllidebol mewn perthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
  5. bod y Pwyllgor hefyd yn ystyried unrhyw gynigion ar gyfer datganoli pwerau ariannol i Gymru fel rhan o'i gyfrifoldebau, a'r cynnydd a wnaed wrth wneud hynny;
  6. gall y Pwyllgor hefyd graffu ar ddeddfwriaeth a gyflwynir i'r Senedd.

Aelodau'r Pwyllgor