Digwyddiad
Cymdeithas Gwasanaethau Adeiladu a Pheirianneg - Cymru - Lansiad Swyddogol
Dyddiad: Dydd Iau 13 Chwefror 2014
Amser: 18.00 - 20.00
Lleoliad: Y Senedd
Disgrifiad: Mae'r Gymdeithas yn cydnabod y pwerau datganoledig cynyddol y mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb drostynt, ac mae llawer o'r pwerau hynny yn cael effaith uniongyrchol ar y sectorau a gynrychiolir gan y Gymdeithas. Yn unol â hynny, mae'r Gymdeithas wedi gwneud y penderfyniad i greu Rhanbarth ar wahân o fewn ei strwythur, fel y gall holl aelodau'r Gymdeithas yng Nghymru gael eu cynrychioli o fewn y Rhanbarth newydd, gan obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwell cydnabyddiaeth i'r Gymdeithas o ganlyniad i'r fenter hon.
Hyperddolen: Jane Hutt AC
Agored i’r cyhoedd: Byddwn yn gwahodd holl Aelodau'r Cynulliad, Aelodau Seneddol lleol, cynrychiolwyr rhanddeiliaid sy'n gysylltiedig â'r diwydiant, holl aelodau'r Gymdeithas yng Nghymru a rhai o brif staff y Pencadlys, tra'n cydnabod bod y Senedd yn adeilad cyhoeddus.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr