Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Diwrnod Gweithredu Byd-eang ar Ofal – digwyddiad ac arddangosfa
Dyddiad: Dydd Mawrth 24 Hydref 2023
Amser: 12.00 - 13.30
Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd
Disgrifiad: Digwyddiad i hyrwyddo menter gyffrous y mae Oxfam Cymru yn ei lansio i ymgysylltu â mwy o ofalwyr ledled Cymru, gan roi cyfle iddynt fynegi eu hanghenion a’u barn drwy ymgyrchu ar ffurf crefft (‘craftivism’). Mae’r prosiect wedi’i gefnogi gan Vanessa Marr, yr artist tecstilau sydd wedi ennill llu o wobrau, a chaiff y gwaith sy’n deillio ohono ei arddangos yn siopau Oxfam yng Nghymru. Rydym am dynnu sylw at y prosiect hwn yng nghyd-destun Diwrnod Gweithredu Byd-eang ar Ofal ar 29 Hydref 2023.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr