Digwyddiad

DIGWYDDIAD: ‘The Silent Village’ - Dangosiad arbennig a thrafodaeth i nodi Wythnos y Ffoaduriaid

Dyddiad: Dydd Mercher 21 Mehefin 2023

Amser: 10.00 - 15.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: I nodi Wythnos y Ffoaduriaid, byddwn yn dangos y ffilm ‘The Silent Village’ o 1943, sy’n gyfuniad o ddrama a dogfen. Treuliodd Humphrey Jennings, y cyfarwyddwr, fisoedd yn byw ymhlith trigolion Cwmgïedd yng Nghwm Tawe i gynhyrchu’r ffilm fer fythgofiadwy hon. Mae’n olrhain stori wir y gyflafan ym mhentref Tsiecaidd Lidice gan y Natsïaid fel petai wedi digwydd yng Nghymru. Bydd trafodaeth fer yn dilyn y ffilm, gan drafod y digwyddiadau yn y blynyddoedd ers iddi gael ei ffilmio a’r cysylltiadau parhaus rhwng y ddwy bentref. Bydd y digwyddiad yn dod i ben gyda rhai sylwadau ar y sefyllfa bresennol o ran ffoaduriaid a cherddoriaeth fyw gan ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr