Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Ffederasiwn Sefydliadau'r Merched Morgannwg - 100 mlynedd yn ddiweddarach... Dal i ymgyrchu

Dyddiad: Dydd Iau 8 Mehefin 2023

Amser: 11.00 - 14.00

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Mae Ffederasiwn Sefydliadau'r Merched Morgannwg yn dathlu ei ganmlwyddiant yn 2023. I nodi'r ffaith ein bod wedi bod yn ymgyrchu ar sawl mater ers 100 mlynedd, mae aelodau o bob un o'r 94 o sefydliadau yn y ffederasiwn wedi gweithio gyda'i gilydd i gynhyrchu cwiltiau clytwaith ar gyfer ymgyrch flynyddol 'Show the Love' y Climate Coalition. Rydyn ni eisiau dangos i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar ein rhan - ASau, Aelodau o’r Senedd a Chynghorwyr ein bod ni wir yn poeni am ble rydyn ni'n byw a bod angen i ni weld camau gweithredu llawer mwy beiddgar yn cael eu cymryd o ran newid hinsawdd.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr