Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Cymrodoriaeth Polio Prydain - Llwybr Gofal Iechyd ar gyfer goroeswyr polio

Dyddiad: Dydd Mercher 7 Mehefin 2023

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Mae’r rhai sydd wedi goroesi polio yn dweud yn rheolaidd nad yw clinigwyr yn cael eu hyfforddi’n ddigonol ynglŷn â’r effaith hirdymor o fyw gyda polio. Nid yw llawer o glinigwyr hyd yn oed yn ymwybodol ei fod yn gyflwr niwrolegol ac, er ei fod yn araf, mae'n glefyd gwaethygol. Mae Cymrodoriaeth Polio Prydain yn datblygu’r llwybr gofal gorau posibl ar gyfer goroeswyr polio. Yn ein digwyddiad rydym am godi ymwybyddiaeth a cheisio cefnogaeth ar gyfer y llwybr, er mwyn sicrhau bod gan bawb sy’n goroesi polio fynediad at ofal gwybodus, sy'n cwmpasu diagnosis a rheolaeth hirdymor sy'n briodol ar gyfer eu hanghenion unigol.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr