Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansio Sefydliadau Technegol Prifysgol Cymru

Dyddiad: Dydd Mawrth 20 Mehefin 2023

Amser: 12.00 - 14.00

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Bydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn dathlu 200 mlynedd o addysg uwch yng Nghymru yn 2022. Mae’r Deucanmlwyddiant yn coffáu sefydlu Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan ar 12 Awst 1822 drwy osod y garreg sylfaen a oedd yn nodi man geni addysg uwch yng Nghymru. Siarter Frenhinol y Brifysgol ym 1828 yw'r hynaf yng Nghymru a Lloegr ar ôl Rhydychen a Chaergrawnt, sy'n golygu mai dyma'r sefydliad hynaf yng Nghymru sy’n dyfarnu graddau.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr