Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Diwrnod Rhwydweithio Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal yn y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth 31 Ionawr 2023

Amser: 09.30 - 15.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Mae’r cynllun mentora bywyd cyhoeddus Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal yn cynnal ei ymweliad blynyddol â’r Senedd ar 31 Ionawr 2023. Yn dilyn yr ymweliad yn 2022, bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys teithiau o amgylch y Senedd; cyfle i rwydweithio ag Aelodau o’r Senedd, mentoreion a mentoriaid dros ginio; a chyflwyniadau gan Aelodau o’r Senedd ar eu gwaith a gwaith y Senedd yn fwy cyffredinol. Gobeithiwn y bydd y digwyddiad yn rhoi cipolwg ar y broses ddeddfu yng Nghymru i grwpiau sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol, gan ysbrydoli unigolion o’r grwpiau hyn i ymgysylltu â’r Senedd a’r broses ddemocrataidd yng Nghymru.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr