Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Digwyddiad Esiamplwyr Bevan

Dyddiad: Dydd Mercher 18 Ionawr 2023

Amser: 10.30 - 14.00

Lleoliad: Y Neuadd a'r Oriel, Y Senedd

Disgrifiad: Mae digwyddiad Esiamplwyr Bevan yn dychwelyd i roi cyfle i’n Hesiamplwyr Bevan nodi a rhannu canlyniadau’r gwaith arloesol y maent wedi’i dreialu yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae Esiamplwyr Bevan yn gweithio yn lleoliadau’r sectorau iechyd a gofal, a’r trydydd sector, sy’n mynd ar drywydd ffyrdd mwy darbodus ac arloesol o weithio. Rydym yn awyddus i gynnal y digwyddiad yn y Senedd (fel y gwnaethom cyn y pandemig) a defnyddio’r Neuadd a’r llawr cyntaf ar gyfer stondinau ac ar gyfer cynnal nifer o gyflwyniadau byr. Mae’r trefniadau hyn wedi gweithio’n dda yn y gorffennol ac mae gennym ddealltwriaeth dda o gynnal digwyddiad yn y gofodau hyn.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr