Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Trawsnewid Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb: O Ystadegau i Straeon

Dyddiad: Dydd Iau 12 Ionawr 2023

Amser: 17.30 - 20.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Statudol Newydd Cymru yn rhoi hawliau, anghenion a llais dysgwyr wrth galon y cwricwlwm. Fodd bynnag, mae gwaith ymchwil yn dangos bod bwlch cynyddol rhwng yr hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei ddysgu a’r Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb y maent yn ei phrofi yn yr ysgol. Yn rhy aml, mae’r hyn sydd o bwys i bobl ifanc yn cael ei becynnu mewn ffordd ystrydebol sy’n symleiddio eu profiad. Mae’r bylchau hyn yn ei gwneud hi’n anodd darparu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb addas a pherthnasol i blant a phobl ifanc. Mae’r digwyddiad hwn wedi’i ddylunio i helpu i gau’r bylchau hyn a dangos sut y gall dulliau gweithredu creadigol alluogi addysgwyr i gysylltu, ac, yn hollbwysig, ymgysylltu, â’r ffordd y mae plant a phobl ifanc yn dysgu am ystod o faterion yn y maes hwn, o’r ysgol i’r sgrîn. Mae’n rhannu canfyddiadau ac adnoddau sy’n deillio o’r prosiect ‘Engaging Sexual Stories’ – prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd, University College London, y Brifysgol Agored a Brook, wedi’i gyllido gan y Wellcome Trust. Mae’r diwrnod wedi’i rhannu’n ddwy ran. Yn y prynhawn, bydd grwpiau o ddisgyblion (rhwng 14 a 18 oed) ac ymarferwyr gwadd yn clywed am ystod o weithgareddau y gall ysgolion eu haddasu i alluogi pobl ifanc i rannu’r hyn y maent am ei ddysgu a sut y maent am ddysgu yng nghyd-destun y ddarpariaeth newydd o ran Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yng Nghymru. Byddant yn gwneud hyn mewn ffordd ddiogel a chreadigol. Bydd y sesiwn gyda’r hwyr yn dangos canfyddiadau’r sesiwn flaenorol, gan rannu adnoddau a chyfleoedd dysgu i ymarferwyr proffesiynol (gyda Brook) drwy gyfres o gyflwyniadau byr, perfformiadau, ffilmiau a thrafodaethau.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

  • MSS Jenny Rathbone

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr