Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Peter yn 21 oed – Ymwybyddiaeth Diabetes Math 1

Dyddiad: Dydd Mawrth 6 Rhagfyr 2022

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: Neuadd, Senedd

Disgrifiad: Heddiw, byddwn yn nodi’r diwrnod a fyddai’n benblwydd Peter Baldwin yn 21 oed, sef 10 Rhagfyr 2022. Yn anffodus, adeg Nadolig 2014, fe gafodd Peter annwyd a oedd yn gwrthod mynd i ffwrdd. Roedd y symptomau’n arwyddocaol o diabetes math 1, sef y pedwar T fel y’u gelwir heddiw; yn anffodus, ni wnaeth ei feddyg teulu sylwi ar y symptomau na gwneud prawf diabetes. Pan gafodd ei dderbyn i’r ysbyty Ddydd Calan 2015, yn drist iawn bu farw. Mae ei deulu wedi ymgyrchu’n ddiflino dros well ymwybyddiaeth a diagnosis o diabetes math 1 mewn plant. Llwyddodd eu deiseb i arwain at adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau, gyda deg argymhelliad a dderbyniwyd yn bennaf gan Lywodraeth Cymru i leihau ac atal y tebygolrwydd y bydd hyn yn digwydd eto. Mae’r digwyddiad hwn yn coffáu bywyd byr Peter, yn galw am adnewyddu’r ymgyrch 4T a chodi ymwybyddiaeth o ddatblygiadau newydd i lwyddo i roi diagnosis o diabetes math 1.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr